Dylai rheoleiddiwr ynni Ofgem ymestyn y cap ar brisiau ynni i gynnwys olew sy’n cael ei ddefnyddio i wresogi adeiladau, meddai’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Mae tai sydd ddim ar y grid yn dibynnu ar olew i’w cynhesu yn hytrach na nwy a thrydan, ac maen nhw’n gweld cynnydd “sydyn ac anferthol” mewn prisiau, meddai’r blaid.

Dydy’r cap presennol ar brisiau ynni ddim yn berthnasol iddyn nhw.

Yn y bythefnos ddiwethaf, mae prisiau olew wedi codi o 66.74c y litr i 148.25 y litr, yn rhannol oherwydd y rhyfel yn Wcráin, a dywedodd un economegydd ynni wrth golwg360 ei fod yn disgwyl gweld prisiau’n parhau i godi tra bo’r rhyfel yn parhau.

Mae dros 33% o aelwydydd Ceredigion yn dibynnu ar olew i gynhesu eu tai, meddai’r Democratiaid Rhyddfrydol, ac mae’r rhagolygon yn awgrymu mai Ceredigion, a siroedd gwledig eraill fel Powys, Gwynedd, a Sir Benfro, fydd yn gweld y cynnydd mwyaf mewn biliau.

‘Dewis rhwng cynhesu a bwyta’

Dywedodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds, ei bod hi fel Aelod o’r Senedd o ardal wledig yn gwbl ymwybodol o’r costau dydd i ddydd niferus sy’n rhaid i’w hetholwyr eu hwynebu o gymharu â phobol mewn ardaloedd trefol.

“Does dim posib amddiffyn y ffaith eu bod nhw nawr yn wynebu biliau mwy fyth gan eu bod nhw wedi cael eu hanghofio gan Blaid Geidwadol sydd wedi’i chanoli yn Llundain, eto fyth,” meddai Jane Dodds.

“Byddwn yn annog y Llywodraeth i ailystyried ar frys a sefydlu amddiffyniad ariannol i gwsmeriaid olew ar gyfer cynhesu, fyddai’n gyfystyr â’r cap ar brisiau ynni presennol nwy a thrydan.

“Tu hwnt i ymestyn y cap ar brisiau ynni i gynnwys olew cynhesu, dylai’r Llywodraeth gael gwared ar y TAW 5% ar filiau ynni, a dyblu’r Gostyngiad Cartrefi Cynnwys drwy gyflwyno treth Robin Hood untro ar elw cynhyrchwyr a masnachwyr olew a nwy.

“Mae hi’n bwysig cofio nad yw cyflenwyr nwy ac olew yn ei chael hi’n anodd fel pobol gyffredin, mae Shell a BP wedi cyhoeddi elwon uwch nag erioed yn ddiweddar.

“Mae nifer o fy etholwyr yn gorfod dewis rhwng cynhesu a bwyta yn barod, mae’n rhaid i’r Llywodraeth weithredu i’w hamddiffyn nhw.”

‘Agored i niwed’

Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin ddoe (Mawrth 10), dywedodd Ben Lake, Aelod Seneddol Plaid Cymru Ceredigion, bod rhai o’i etholwyr wedi gweld eu biliau cynhesu ag olew wedi mwy na threblu eleni.

“Mae eraill wedi cael gwybod nad oes yna beth ar gael iddyn nhw, ac wrth gwrs, rydyn ni wedi arfer gweld prisiau pympiau [petrol] yn cynyddu 10c, 20c mewn ychydig ddyddiau.

“Mae Ceredigion yn arbennig o agored i niwed yn sgil y cynnydd hwn. Mae gennym ni ardaloedd lle nad ydy mwy na 80% o’r tai ar y prif gyflenwad nwy, ac mae diffyg seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn golygu, yn anffodus, ein bod ni’n gorfod dibynnu mwy ar geir i wneud siwrnai hanfodol.”

Gofynnodd Ben Lake a fyddai’n bosib cael rhaglenni gostyngiadau dros dro i godi peth o’r pwysau.