Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio cynllun peilot i ostwng y terfyn cyflymder o 30mya i 20mya

ar heolydd preswyl a strydoedd siopa prysur Cymru erbyn 2023.

Mae Gogledd Caerdydd yn un o’r wyth peilot sy’n cael eu cynnal mewn cymunedau ledled Cymru i brofi’r broses o ostwng y terfyn cyflymder arferol.

Mae’r treialon hyn yn rhan o ymgynghoriad mwy gan Lywodraeth Cymru i geisio darganfod barn y cyhoedd. Mae grwpiau ffocws ar-lein gyda thrigolion cymunedau sy’n rhan o’r cymal cyntaf, ymchwil annibynnol ac ymgynghoriad cyhoeddus i gyd yn cael eu hystyried cyn rhoi’r fenter ar waith ym mhob man flwyddyn nesaf. Fe fydd canlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus yn cael eu cyhoeddi heddiw (Dydd Gwener, 11 Mawrth).

‘Achub bywydau’

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sydd â chyfrifoldeb am drafnidiaeth, Lee Waters: “Mae’r dystiolaeth yn glir. Mae gostwng cyflymder yn lleihau damweiniau ac yn achub bywydau. Mae’n gwella ansawdd bywyd trwy wneud ein strydoedd a’n cymunedau’n fwy diogel ac yn lle mwy croesawgar i feiciau a cherddwyr a hefyd yn lleihau’r effeithiau amgylcheddol.”

Mae Lee Waters yn cydnabod bod rhai “yn siŵr o wrthwynebu” a bod angen amser “i argyhoeddi pobl” ond ychwanegodd, “rwy’n hyderus, o gael pawb i weithio gyda’i gilydd, y gallwn wneud y newidiadau sydd eu hangen ddaw â budd i ni nawr ac yn y dyfodol.”

‘Annog dulliau teithio gwyrddach’

Yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd yw un o’r ardaloedd sy’n cymryd rhan yn y cam cyntaf. Mae athrawon a phlant ysgol gynradd leol wedi croesawu’r cynllun.

Dywedodd Pennaeth Ysgol Gynradd yr Eglwys Newydd, Ann Griffin:

“Rydyn ni wrth ein bodd cael chwarae rhan mor amlwg yn y cynllun cyffrous a phwysig iawn hwn.

“Yn ogystal â gwneud ein ffyrdd yn fwy diogel, bydd gostwng y terfyn cyflymder yn helpu hefyd i annog dulliau teithio gwyrddach eraill, fel cerdded a beicio.

“Mae teithio llesol yn rhan amlwg o’r cwricwlwm yn ein hysgol ac mae’n plant yn chwarae rhan amlwg yn annog pobl eraill i ddewis teithio llesol a dulliau mwy cynaliadwy.”

‘Cam positif’

Mae Cyngor Caerdydd wedi gosod terfyn cyflymder o 20mya ymhob rhan o’r ddinas i’r de o’r A48 ers sawl blwyddyn bellach.

Dywedodd Aelod o Gabinet y Cyngor dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Carol Wilde: “Mae arafu cerbydau yn ein hardaloedd preswyl yn gam positif i’n cymunedau lleol ac mae’r rhan fwyaf o’r bobl yn ei gefnogi.  Mae ymchwil yn dangos bod arafu cerbydau mewn ardaloedd preswyl yn gostwng nifer a difrifoldeb damweiniau ffyrdd, yn creu cyfleoedd gwell i bobl gerdded a beicio, yn gwneud ein strydoedd yn iachach ac yn gwella’r amgylchedd i bawb.”