Mae bachgen 14 oed wedi ymddangos gerbron llys ar gyhuddiad o lofruddiaeth ar ôl i ddyn gael ei drywanu tu allan i archfarchnad Asda.
Yn ôl Heddlu Gorllewin Mercia cafodd Ian Kirwan, 53, ei drywanu yn Redditch, Swydd Gaerwrangon tua 7.20yh ddydd Mawrth.
Wrth ymddangos gerbron Llys Ynadon Kidderminster heddiw (Dydd Gwener, 11 Mawrth) roedd y bachgen, o Firmingham, wedi cadarnhau ei enw, ei ddyddiad geni a’i gyfeiriad yn unig, yn ystod y gwrandawiad.
Nid oedd wedi gorfod cyflwyno ple ar hyn o bryd.
Cafodd 11 llanc eu harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad. Mae dau lanc, ynghyd a’r bachgen sydd wedi’i gyhuddo, yn parhau i gael eu cadw yn y ddalfa.
Dywedodd yr heddlu bod un llanc wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth a bod saith arall wedi’u rhyddhau ac na fydd camau pellach yn eu herbyn.
Mae’r archfarchnad bellach wedi ail-agor ac mae gan yr heddlu bresenoldeb amlwg yn Redditch, meddai’r heddlu.
Fe fydd y bachgen, na ellir cyhoeddi ei enw am resymau cyfreithiol, yn ymddangos gerbron Llys y Goron Caerwrangon ddydd Llun.