Gwynedd, bellach, sydd â’r cyfraddau Covid-19 uchaf yng Nghymru, gyda chyfanswm o 865 achos dros gyfnod o saith diwrnod.

Mae gan y sir 694.4 achos ymhob 100,000 o’r boblogaeth, sy’n uwch nag unrhyw awdurdod lleol, gyda Bro Morgannwg y tu ôl iddyn nhw ar 685.7.

Heddiw (18 Tachwedd), yr ardal yng Ngwynedd gyda’r cyfraddau uchaf oedd Dwyrain Caernarfon (1,688.2 i bob 100,000).

Rhybuddiodd cyfarwyddwr gweithredol nyrsio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fod y Gwasanaeth Iechyd yn wynebu nifer o heriau wrth i’r gaeaf agosáu.

Ddydd Mercher (17 Tachwedd), roedd 141 o gleifion yn holl ysbytai Gogledd Cymru yn dioddef oherwydd y firws.

Datganiad

Rhoddodd Gill Harris, cyfarwyddwr gweithredol nyrsio’r bwrdd iechyd, ddatganiad heddiw (dydd Iau, 18 Tachwedd) ynglŷn â’r ffigyrau diweddaraf.

“Mae lefelau cymunedol yn codi, a Gwynedd bellach sydd â’r gyfradd uchaf yng Nghymru,” meddai.

“Mae Wrecsam hefyd yn uwch na chyfartaledd Cymru, felly mae’n glir bod y ffigurau yng ngogledd Cymru yn cynyddu.

“Rydyn ni’n gweld cynnydd bach yn y niferoedd sy’n hunanynysu yn y gorllewin ac [ardal] Ysbyty Gwynedd, sy’n debygol o fod o ganlyniad i rai o’r lefelau uwch hynny yng Ngwynedd.

“Felly mae [Covid-19] yn sicr yn dal o gwmpas, a byddwn yn annog pawb yn ein cymunedau i gefnogi’r mesurau sydd wedi’u rhoi ar waith i leihau lledaeniad Covid-19 wrth inni agosáu at y gaeaf.

“Rydyn ni’n gweld gwelliant ymysg y grwpiau oedran iau.

“Mae nifer o’n cleifion ni o hyd yn gleifion mewnol. Mae rhai o’r rheiny’n wael iawn.

“Mae’r niferoedd yn Ysbyty Gwynedd yn cynyddu. Mae hyn yn heriol o ran gweithgaredd arall ledled Gogledd Cymru.”

Roedd Harris yn cyfeirio at sawl her weithredol arall oedd yn effeithio ar y Gwasanaeth Iechyd yn y Gogledd, gan gynnwys pobol yn ymweld â meddygon teulu gyda symptomau o Covid-19.

Er bod y niferoedd sydd yn yr ysbyty yn is nag oedd yn yr ‘ail don’, mae tri ysbyty yn wynebu “pwysau gweithredol parhaus.”

Datgelodd Harris hefyd bod y bwrdd iechyd yn gweithio’n galed i gyrraedd y safonau cenedlaethol newydd ynglŷn ag amseroedd ymateb ambiwlansys, gan gydnabod pwysigrwydd cyrraedd cleifion yn sydyn.

Y rhestr lawn o gyfraddau Covid awdurdodau lleol Cymru

O’r chwith i’r dde: enw’r awdurdod lleol; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at 14 Tachwedd; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at Dachwedd 14; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at Dachwedd 7; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at Dachwedd 7.

Gwynedd, 702.2, (879), 454.6, (569)

Bro Morgannwg, 673.3, (911), 638.6, (864)

Torfaen, 567.3, (538), 628.5, (596)

Sir Fynwy, 566.4, (539), 458.2, (436)

Caerdydd, 563.6, (2081), 534.9, (1975)

Powys, 547.2, (728), 509.7, (678)

Sir Gaerfyrddin, 542.9, (1032), 472.5, (898)

Merthyr Tudful, 541.2, (327), 455.1, (275)

Wrecsam, 523.3, (712), 425.6, (579)

Abertawe, 517.1, (1275), 494.0, (1218)

Castell-nedd Port Talbot, 510.4, (737), 571.4, (825)

Caerffili, 498.5, (906), 532.7, (968)

Casnewydd, 494.1, (773), 479.4, (750)

Blaenau Gwent, 491.3, (344), 544.1, (381)

Sir Ddinbych, 484.2, (468), 430.4, (416)

Pen-y-bont ar Ogwr, 473.1, (698), 482.6, (712)

Sir Benfro, 452.9, (574), 421.3, (534)

Rhondda Cynon Taf, 437.0, (1057), 379.1, (917)

Sir y Fflint, 408.0, (640), 362.8, (569)

Conwy, 349.5, (413), 341.8, (404)

Ynys Môn, 346.4, (244), 279.7, (197)

Ceredigion, 266.1, (194), 366.3, (267)