Gwenno Williams
A finnau’n fyfyrwraig fferylliaeth sydd yn y pendraw yn gobeithio gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, siom pur oedd darllen ‘exposé diweddaraf y Daily Mail yn sarhau ein hysbytai cenedlaethol.
Drwy gydol yr wythnos ddiwethaf bu’r papur yn rhedeg straeon yn ddyddiol, gyda thair o’r rheiny’n cyrraedd y clawr blaen.
Mae’r mater hyd yn oed wedi sbarduno dadleuon yn Nhŷ’r Cyffredin, gyda’r Ysgrifennydd Iechyd Prydeinig, Jeremy Hunt, yn datgan bod trigolion Cymru yn derbyn gwasanaeth ‘ail ddosbarth’.
Wrth gwrs nid yw’r Gwasanaeth Iechyd yn berffaith, na chwaith gweddill gwasanaethau iechyd gwledydd Prydain, ond teimlaf fod nifer o’r cyhuddiadau yn gwbl annheg.
Pam teithio?
Er enghraifft, dyfynnwyd ffigurau yn dangos nifer y cleifion Cymreig sy’n ‘ffoi’ dros y ffin er mwyn cael triniaeth mewn ysbytai yn Lloegr, gan ein harwain i gredu mai achos yr ymfudiad sylweddol yma yw safonau truenus ein Gwasanaeth Iechyd ni.
Ond rhaid cofio bod Powys gyfan heb yr un ysbyty cyffredinol, gydag ardaloedd o’r Gogledd hefyd yn brin, felly, yn naturiol, yr unig fodd i dderbyn triniaeth angenrheidiol yw teithio i Loegr. Mae hyn hefyd yn fwy ymarferol i drigolion sy’n byw yn agos at y ffin.
Rhaid hefyd ystyried arbenigedd ysbytai. Er enghraifft, mae Ysbyty’r Frenhines Elizabeth ym Mirmingham yn gartref i’r ganolfan trawsblannu arennau fwyaf yn Ewrop, ac ystyrir Ysbyty Treforys yn Abertawe yn un o’r canolfannau gorau i dderbyn triniaeth am losgiadau ym Mhrydain.
Felly pwy all feio cleifion Cymru am fynnu derbyn triniaethau yn yr ysbytai gorau?
Cameron i’r adwy
Ond wrth gwrs, nid safonau’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru sydd wedi cythruddo’r gwleidyddion yn San Steffan er bod y broblem yn bodoli ers nifer o flynyddoedd bellach.
Na, un dyddiad sydd wedi cynnau’r cyfan; 7 Mai 2015. Mae’r amser wedi dod unwaith eto am yr etholiad cyffredinol, a’r tro hwn rheolaeth Cymru sydd o dan y chwyddwydr.
Penderfynodd y Daily Mail, a nawr David Cameron, fod methiannau’r GIG yn adlewyrchiad arbennig o allu arwain Ed Miliband a gweddill Llafur, ac felly’n rheswm gwych i’w atal rhag dod yn Brif Weinidog.
O ganlyniad i ffaeleddau Llafur, mae’n rhaid i’r Torïaid gamu i mewn i adfer y sefyllfa, gyda Cameron nawr yn addo arbed toriadau ariannol i’r gwasanaethau iechyd, fel petai hynny’n mynd i wella’r cyfan.
Canmol Carwyn
Ond chwarae teg i Carwyn Jones, sydd am unwaith wedi amddiffyn Cymru a llwyddo i wrth-droi bron pob dadl a gyflwynodd y Daily Mail.
Teimlaf ei bod hi’n gwbl annheg i’r wasg ddefnyddio enghreifftiau o ychydig unigolion i bortreadu’r 72,000 o weithwyr sy’n cael eu cyflogi gan y Gwasanaeth Iechyd fel pobol esgeulus sy’n anwybyddu lles cleifion.
Mae Jones a’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford, wedi anfon llythyr i weithwyr y GIG yn eu canmol am eu gwaith caled i’r gwasanaeth ac am gadw morâl uchel er gwaetha’r cyhuddiadau yn eu herbyn.
Braf oedd darllen y llythyr caredig yma, gan ei bod hi’n bwysig sicrhau nad yw gweithwyr yn colli hyder yn eu gallu na’u dyletswyddau – byddai hynny’n beth trychinebus.
Gyda’r system o dan straen enfawr ac yn ceisio osgoi sarhad pellach, credaf fod ychydig o eiriau o gefnogaeth yn gallu adennill ffydd y gweithwyr yn y GIG, ac yn bwysicach fyth, eu hannog i adfer ffydd y cyhoedd.
Beth nesaf?
Felly rhaid codi’r cwestiwn o beth nesaf? Pa fath o ddyfodol sydd gan ein Gwasanaeth Iechyd?
Credaf y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu i sicrhau nad yw unrhyw ysbytai yng Nghymru yn gorfod cau er mwyn osgoi gwaethygu’r straen ar y gwasanaeth.
Byddai agor ysbyty newydd i wasanaethu’r canolbarth hefyd yn lleihau’r pwysau ac yn cywiro’r anghysondeb o ran darpariaeth gwasanaethau iechyd ar draws y wlad.
Rhaid hefyd hysbysebu’r gwasanaethau priodol i ddelio ag afiechydon yn dibynnu ar ba mor ddifrifol ydyn nhw, er enghraifft Cynllun Afiechydon Annifrifol mewn fferyllfeydd ar gyfer afiechydon pob dydd, ac apwyntiad gyda’r meddyg ar gyfer afiechydon mwy difrifol.
Y gobaith yw y byddai hyn yn lleihau nifer y cleifion sy’n diweddu yn yr ysbyty’n ddiangen o ganlyniad i sefyllfaoedd y mae modd eu hosgoi.
Does dim modd gwadu bod yn rhaid i’r GIG newid er mwyn adfer ffydd y cyhoedd yn y gwasanaeth. Diffyg arian sydd wrth wraidd y broblem ac, yn anffodus ond arian all ei datrys.
Mae Gwenno Williams yn fyfyrwraig fferylliaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.