Andrew 'Tommo' Thomas (Llun: BBC Cymru)
Mae BBC Cymru wedi cyhoeddi y bydd Andrew ‘Tommo’ Thomas yn dychwelyd i’w waith yr wythnos nesaf, yn dilyn ymchwiliad.
Roedd y cyflwynydd a’r DJ wedi’i wahardd tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i sylwadau honedig wnaed ganddo yn ystod Gwyl Nôl a ’Mlân yn Llangrannog ar benwythnos Gorffennaf 7 -8.
Ond fe ddaeth cadarnhad heddiw y bydd Andrew ‘Tommo’ Thomas yn dychwelyd i’w raglen ddyddiol rhwng 2 a 5 y pnawn, yr wythnos nesaf.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru: “Yn dilyn ymchwiliad mewnol, mae Tommo wedi ysgrifennu at drefnwyr Gŵyl Nôl a ’Mlân i ymddiheuro yn ddiamod am yr hyn a ddywedodd tra’n cyflwyno.
“Mae’r BBC yn cymryd cwynion fel hyn o ddifrif ac wedi cymryd camau priodol yn dilyn yr ymchwiliad.
“Fe fydd Tommo yn dychwelyd i gyflwyno ei raglen ddyddiol yr wythnos nesaf.”