Mae gwasanaeth angladdol Saffie Rose Roussos – y person ieuengaf i farw yn dilyn ymosodiad brawychol Manceinion – yn cael ei gynnal y prynhawn yma.
Roedd y ferch wyth oed ymhlith 22 o bobol a gafodd eu lladd pan ffrwydrodd bom yn Arena Manceinion.
Ar gais y teulu, fe fydd galarwyr yn cario rhosyn i mewn i eglwys gadeiriol y ddinas er cof amdani.
Bydd cerdyn â llun Saffie arno yn cael ei roi i’r galarwyr ac arno mae’r neges: “Hoffem ddiolch i chi am fod yma gyda ni heddiw ac am eich holl gariad a chefnogaeth.”
Cafodd gwahoddiad i’r gwasanaeth ei estyn i unrhyw un oedd wedi cael ei effeithio gan yr ymosodiad brawychol ddeufis yn ôl.
Roed Saffie Roussos yn un o’r plant oedd yn gadael cyngerdd gan y gantores Americanaidd, Ariana Grande pan ffrwydrodd Salman Abedi fom ger yr allanfa. Roedd saith o’r 22 a fu farw yn blant.
Cafodd ei mam 48 oed, Lisa a’i llyschwaer Ashlee Bromwich, 23, eu hanafu yn y digwyddiad. Mae ei mam yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty o hyd, ond mae hi wedi gallu mynd i’r angladd.
Bydd gwasanaeth byr yn eglwys pentre’r teulu yn Swydd Gaerhirfryn heddiw.