Efa Gruffudd Jones
Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi derbyn £3m gan Lywodraeth Cymru i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle yn “hanfodol” i’r nod o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Y Ganolfan – dan arweiniad y Prif Weithredwr Efa Gruffudd Jones, cyn-fos mudiad yr Urdd – sy’n gyfrifol am arwain ar strategaethau ar gyfer y sector Cymraeg i Oedolion, gan gynnwys datblygu a darparu cyrsiau yn y gweithle, gan ganolbwyntio ar y sefydliadau hynny y mae Safonau’r Gymraeg yn ganolog i’w gwaith.
Miliwn o siaradwyr
Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo cyfanswm o £5m i hybu’r Gymraeg, ac mae disgwyl cyhoeddiad am y £2m ychwanegol maes o law.
Mae’r arian i’r Ganolfan wedi’i glustnodi fel rhan o gytundeb rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn 2017-18.
Fe fydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu:
- Gwybodaeth a chyngor ‘Cymraeg Gwaith’ i gyflogwyr
- Cyrsiau ar-lein a chyrsiau cychwynnol ‘Croeso Cymraeg Gwaith’
- Cyrsiau dwys ‘Dysgu Cymraeg Gwaith’
- Cyrsiau ‘Cymraeg Cynnar’ ar gyfer sefydliadau Blynyddoedd Cynnar
- Cyrsiau preswyl ‘Defnyddio Cymraeg Gwaith’ i wella hyder gweithwyr ac i ddarparu terminoleg arbenigol
Mewn datganiad, dywedodd Gweinidog y Gymraeg, Alun Davies fod yr arian yn helpu nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
“Yn unol â’n cyd-uchelgais â Phlaid Cymru, rydym yn neilltuo £3m ychwanegol er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei defnyddio’n fwy helaeth ac i annog rhagor o bobol i’w siarad hi,” meddai’r Gweinidog.
“Bydd y buddsoddiad hwn yn galluogi’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddarparu cefnogaeth ymarferol i gyrff, gan eu rhoi nhw mewn sefyllfa i ddarparu gwasanaeth dwyieithog rhagorol i’r cyhoedd ac i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg.”