Mae Aelod Cynulliad Gogledd Caerdydd, Julie Morgan wedi dweud wrth golwg360 fod sgandal gwaed wedi’i heintio yn un o’r “trasiedïau mwyaf yn hanes y Gwasanaeth Iechyd”.
Mae hi’n un o grŵp o wleidyddion sy’n galw ar Lywodraeth Prydain i gynnal ymchwiliad cyhoeddus i’r helynt a arweiniodd at farwolaethau 70 o bobol yng Nghymru yn ystod y 1970au a’r 1980au.
Cafodd y rhai a fu farw eu heintio â HIV a Hepatitis C ar ôl iddyn nhw dderbyn gwaed oedd wedi’i heintio.
Y llynedd, daeth cadarnhad gan Lywodraeth Cymru eu bod nhw’n cynnig cymorth ariannol i deuluoedd y rhai a fu farw yng Nghymru. Ond mae aelodau’r Cynulliad yn cynnal dadl heddiw wrth i’r grŵp alw am ymchwiliad cyhoeddus.
‘Dim digon o wybodaeth gan y Cynulliad’
Yn ôl Julie Morgan, does gan y Cynulliad ddim digon o wybodaeth am y mater i allu cynnal ymchwiliad cyhoeddus er bod maes iechyd wedi’i ddatganoli.
“Fyddai hi ddim yn bosib i’r ymchwiliad fod yn nwylo’r llywodraethau datganoledig achos fyddwn ni ddim wedi cael y cofnodion na’r wybodaeth i fynd yn ôl ato,” meddai wrth golwg360.
“Dylai fod ymchwiliad achos, heb un, fydd y teuluoedd hyn byth yn cael diweddglo ac mae angen iddyn nhw wybod beth ddigwyddodd i’w hanwyliaid sydd wedi marw ac i’r sawl sydd dal yn byw gyda’r salwch hyn.”
Dogfennau coll
Un rheswm pam na fu’n bosib cynnal ymchwiliad hyd yn hyn yw am fod nifer o ddogfennau a fyddai’n allweddol i’r fath ymchwiliad wedi cael eu dinistrio ar y pryd, a hynny am fod deg mlynedd wedi pasio.
Mae’n bosib y gallai’r dogfennau hynny gynnwys gwybodaeth am yr hyn y mae Julie Morgan yn ei alw’n “bryderon” am ansawdd gwaedd oedd yn dod i mewn o’r Unol Daleithiau.
“Mae cymaint o bethau lle nad oes unrhyw atebion,” meddai Julie Morgan, “achos mae’r cwestiwn pam wnaethon nhw [y Gwasanaeth Iechyd] barhau i roi gwaed oedd wedi’i heintio gan wybod bod amheuaeth ohono.
“Mae’n debyg bod pryderon wedi bod am ansawdd y gwaed, yn enwedig y gwaed a ddaeth i mewn o’r Unol Daleithiau, lle mae system o dalu pobol am waed, sy’n golygu bod y bobol sy’n rhoi gwaed yn aml yn daer am arian, pobol oedd wedi dod o’r carchar a phobol a allai fod wedi defnyddio cyffuriau…
“Mae’r broblem o’r holl ddogfennau coll a gafodd eu dinistrio hefyd. Fe wnaeth David Owen, oedd yn Ysgrifennydd Iechyd ar y pryd, sylwi bod problem ac fe wnaeth e fynd ati i sicrhau bod y Deyrnas Unedig yn hunangynhaliol o ran gwaed.
“Ond flynyddoedd wedyn, pan nad oedd e mewn pŵer ac yn rhan o’r wrthblaid, sylweddolodd nad oeddem ni’n hunangynhaliol a phan aeth yn ôl i edrych ar y papurau i weld beth ddigwyddodd, roedden nhw wedi cael eu dinistrio.
“Mae lot o gwestiynau fel hynny a fyddai ymchwiliad statudol yn eu hateb.”
Iawndal i deuluoedd?
Yn Lloegr, mae gweddwon wedi derbyn taliad o £10,000 yr un yn dilyn yr helynt, ond mae Llywodraeth Cymru’n ymgynghori ar hyn o bryd ar y ffordd ymlaen cyn cynnig iawndal i deuluoedd sydd wedi cael eu heffeithio.
Wrth gyfeirio at y swm “annigonol” yn Lloegr, meddai Julie Morgan: “Dw i’n gwybod bod dioddefwyr hemoffilia a’u teuloedd yn anfodlon gyda’r hyn sydd wedi cael ei gynnig yn Lloegr.
“Pan ry’ch chi’n meddwl am golli rhywun am oes, mae hynny’n annigonol.
“Dw i ddim yn meddwl bod taliad unigol i weddwon yn ddigonol, mae angen rhywbeth sydd lot yn fwy cyson a hirdymor.”