Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn dweud fod y Cynulliad Cenedlaethol yn ymddwyn yn “annemocrataidd”, wedi iddo wrthod yr hawl i’r mudiad gyflwyno tystiolaeth i bwyllgor.
Roedd disgwyl i ddau gynrychiolydd gyflwyno tystiolaeth i Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu’r Cynulliad fore heddiw, fel rhan o’r gwaith craffu ar y cylch diweddaraf o Safonau’r Gymraeg fydd yn cael eu cyflwyno i’r Senedd ar ddiwedd y mis.
Cyn y cyfarfod, anfonodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ebost at gadeirydd y pwyllgor, Bethan Jenkins AC, yn rhoi gwybod iddi am eu safiad yn erbyn plaid UKIP, sydd ag un aelod ar y pwyllgor.
Fe nodwyd yn yr ebost na fyddai cynrychiolwyr y Gymdeithas yn fodlon ateb cwestiynau’r aelod UKIP, ac y bydden nhw’n tynnu sylw at agweddau rhagfarnllyd y blaid.
‘Hynod siomedig’
Dywedodd cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Heledd Gwyndaf, mewn datganiad fod y penderfyniad yn “annemocrataidd” ac yn “siom”.
“Mae’r penderfyniad annemocrataidd hwn ar ran y Cynulliad Cenedlaethol yn hynod siomedig ac yn adlewyrchiad trychinebus o gyflwr ein hoes,” meddai.
“Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn bodoli i hwyluso trafodaeth agored a theg. Ond nid yn unig bod aelodau’r Pwyllgor am gofleidio rhagfarn UKIP â dwylo agored, maent am atal llwyfan i ni, sydd o blaid hawliau i’r Gymraeg ac i leiafrifoedd eraill.
“Drwy gydol y Cynulliad diwethaf, buon ni’n cyd-weithio gyda’r holl bleidiau yn y Cynulliad, er, ar adegau, bu gennym wahaniaeth farn ar sawl mater gyda nifer ohonynt.
“Fodd bynnag, fel mudiad rydyn ni wedi cytuno na fyddwn ni’n cydweithio gydag UKIP, a hynny ar sail eu rhagfarn,” meddai Heledd Gwyndaf wedyn.
“Mae UKIP wedi hybu a goddef agweddau rhagfarnllyd yn erbyn nifer o grwpiau yn ein cymdeithas – pobol lesbiaidd, hoyw, deurywiol, a thraws, lleiafrifoedd ethnig, mewnfudwyr, pobol sydd â HIV – a’r Gymraeg. Allwn ni ddim eu trin fel unrhyw blaid arall.
“Dylai’r Gymraeg a Chymru gynnwys a chroesawu pawb sy’n dod i’n gwlad.”