Mae cwmni gwyliau Thomas Cook yn cludo bron i 1,000 o deithwyr adref o’r Gambia i wledydd Prydain yn dilyn pryderon am ansefydlogrwydd gwleidyddol yn y wlad.

Mae’r cwmni’n gweithredu ar sail cyngor gan y Swyddfa Dramor i beidio â theithio i’r wlad oni bai bod rhaid.

Mae argyfwng 90 diwrnod wedi’i gyhoeddi yn y wlad ar ôl i’r Arlywydd Yahya Jammeh wrthod ildio grym ar ôl colli etholiad.

Mae nifer o wledydd eraill yng ngorllewin Affrica wedi bygwth gweithredu’n filwrol pe na bai Adama Barrow yn cael dod i rym erbyn diwedd yr wythnos.

Mae nifer o deithiau awyr wedi cael eu trefnu er mwyn cludo pobol adref i wledydd Prydain dros y dyddiau nesaf.

Mae unrhyw un sydd yn bwriadu teithio i’r wlad wedi cael cyngor i gysylltu â threfnwyr eu gwyliau.