Canabis
Fydd y border bach fyth yr un peth eto ar ôl i gwpwl oedrannus dyfu’r planhigyn cannabis mwya’ a welodd heddlu erioed.

Roedd y cwpwl o Bedford wedi prynu’r planhigyn mewn sêl cist car, heb sylweddoli beth oedd o.

Ar ôl ei blannu yn eu gardd, fe gafodd ofal cariadus a thyfu’n fawr – yn fwy nag unrhyw blanhigyn canabis yr oedd heddlu lleol wedi ei weld.

Fe ddywedodd yr heddlu wrth y BBC na fyddai’r cwpwl yn cael eu herlyn, ond y bydden nhw’n cael gwared ar y planhigyn.