Chris Grayling
Fe fydd Ysgrifennydd Cyfiawnder Prydain yn rhoi mwy o hawliau i berchnogion tai pan fydd pobol yn torri i mewn.
Fe fydd Chris Grayling yn dweud wrth Gynhadledd y Ceidwadwyr ei fod am gryfhau’r gyfraith i roi mwy o hawl i’r perchnogion ddefnyddio trais.
Fe fyddai cyfraith newydd yn rhoi’r hawl i ddefnyddio trais sy’n ymddangos yn rhesymol ar y pryd, hyd yn oed os yw’n ymddangos yn ormodol yng ngolau dydd.
‘Grym rhesymol’
Ar hyn o bryd, mae’r gyfraith yn rhoi caniatâd i ddefnyddio “grym rhesymol”; hyd yn oed dan y gyfraith newydd fe fyddai grym cwbl afresymol yn dal i fod yn anghyfreithlon.
Yn ystod y blynyddoedd diwetha’, mae’r Gwasanaeth Erlyn a llysoedd wedi ochri o blaid perchnogion sy’n defnyddio trais yn erbyn drwgweithredwyr yn eu cartrefi.
“Mae dod ar draws rhywun sydd wedi torri i mewn i’ch cartref eich hun yn brofiad dychrynllyd a ddylai’r cyhoedd ddim amau fod y gyfraith ar eu hochr,” meddai Chris Grayling, cyn ei araith yn Birmingham heddiw.