Jimmy Savile (jmb CCA2.5)
Mae Cadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC wedi dweud nad oes esgusodion am ymddygiad honedig y cyflwynydd teledu Syr Jimmy Savile.

Mewn cinio yng Nghaerdydd, fe ddywedodd Chris Patten y byddai’r Gorfforaeth yn cynnal ymchwiliad ar ôl i ymholiadau’r heddlu ddod i ben.

Ac mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron, wedi awgrymu fod eisiau ystyried a ddylai Jimmy Savile gadw’r teitl ‘Syr’.

Mae’r honiadau fod y cyn DJ wedi cam-drin merched ifanc yn ystod ei yrfa deledu wedi dod i’r wyneb flwyddyn ar ôl marwolaeth Jimmy Savile a oedd hefyd yn enwog am godi arian at elusen.

Doedd hi ddim yn esgus i ddweud bod yr ymddygiad honedig wedi bod yn y 60au, y 70au a’r 80au, pan oedd “agweddau’n wahanol”, meddai’r Arglwydd Patten yng nghinio Clwb Busnes Caerdydd.

“Dyw hi ddim yn esgus dweud, ‘Dw i’n siŵr fod yr un peth yn digwydd gyda grwpiau pop ac eraill ar ypryd’. Efallai fod hynny’n wir ond dydyn nhw ddim yn esgus.”