Mae copi prin o gomic The Dandy sy’n dyddio yn ôl i 1938 wedi ei werthu mewn ocsiwn am £1,250.

Mae’r copi cynnar yn cynnwys nifer o gymeriadau enwog fel ‘Desperate Dan’ a ‘Korky The Cat’.

Y Dandy Monster Comic oedd y cyntaf o 81 o gopïau blynyddol o’r comic.

Fe gafodd ei werthu am £1,250 yn Aylsham, Swydd Norfolk.

Cafodd y comic Dandy cyntaf ei gyhoeddi gan DC Thompson ym mis Rhagfyr 1937 a pharhaodd tan fis Rhagfyr 2012 ar ffurf brintiedig, ac yna am chwe mis arall ar y We.