Mae Eminem eisoes yn 'frenin' yn y byd hip hop - ond oes ganddo waed brenhinol go iawn hefyd? (llun:Scott Kinmartin/FlickrCC2.0)
Mae gwefan achyddiaeth yn honni bod un o rapwyr enwoca’r byd yn perthyn i Dywysogion Cymru.

Yn ôl y cofnodion ar wefan Geni o’r Unol Daleithiau mae modd dilyn llinach Eminem, neu Marshall Bruce Mathers III, nôl at Rhodri Fawr a etifeddodd deyrnas ei dad, Merfyn Frych ap Gwriad, yng Ngwynedd yn y flwyddyn 844.

Mae’r cofnodion hefyd yn dangos fod y rapar perthyn i ragor o fawrion hanes Cymru gan gynnwys Hywel Dda, pensaer y cyfreithiau enwog, a William Herbert wnaeth olynu ewythr Harri VII, Jasper Tudur, fel Iarll Penfro yn ystod Rhyfel y Rhosod.

Llwyddodd Rhodri Fawr i uno teyrnasoedd Gwynedd, Powys a Seisyllwg o dan ei reolaeth a credir mai ef oedd y tywysog cyntaf o Gymru i gael yr ansoddair ‘Mawr’ ar ôl ei enw fel cydnabyddiaeth o’i gyflawniadau.

Daw Eminem,43, o Missouri a fo oedd y cerddor a werthodd y nifer fwyaf o recordiau yn yr Unol Daleithiau yn y 2000au. Mae cylchgrawn Rolling Stone wedi dweud, yn ddigon priodol, mai fo yw Brenin Hip Hop.