Rhys Mwyn
Ymysg y newidiadau i amserlen Radio Cymru mae rhaglen newydd wythnosol i’r hen pync Rhys Mwyn a chwmni John Hardy i’r rhai sy’n codi’n gynnar.
Hefyd bydd sioe Sadyrnol Tudur Owen yn symud i naw y bore.
Bydd yr arlwy newydd yn cychwyn ar yr 2il o Ebrill ac mae Radio Cymru wedi dweud y bydd lleisiau cyfarwydd yr orsaf a’r ymroddiad i gerddoriaeth Gymraeg yn parhau i fod yn rhan ganolog o’r gwasanaeth.
Y Boreau
Yn ystod yr wythnos bydd John Hardy yn cychwyn y dydd ar Radio Cymru gyda rhaglen newydd am 5.30 y bore gyda cherddoriaeth, golwg ar y papurau, yn ogystal â’r penawdau chwaraeon, tywydd a’r traffig.
Y Post Cyntaf sy’n dilyn am saith o’r gloch yng nghwmni Dylan Jones, Kate Crockett a Gwenllian Grigg.
Bydd Aled Hughes yn croesawu Cymru am 8.30 gyda rhaglen newydd sy’n cynnig cymysgedd o gerddoriaeth a sgyrsiau.
Yna, bydd Bore Cothi a’r rhaglenni dyddiol yn dilyn fel arfer, gan gynnwys Rhaglen Tommo sydd wedi hollti barn gwrandawyr.
Gyda’r hwyr
Am saith o’r gloch bob nos, bydd slot gerddoriaeth newydd yn cael ei chreu gan gychwyn gyda Recordiau Rhys Mwyn bob nos Lun. Bydd basydd Yr Anhrefn a cholofnydd Yr Herald Cymraeg yn dod â’i gasgliad recordiau i’r stiwdio gan chwarae rhai o glasuron y gorffennol yng nghwmni gwesteion fydd yn hel atgofion am y 1980au a’r 1990au.
Nos Fawrth, bydd Sesiwn Georgia Ruth yn cynnwys cerddoriaeth byd a gwerin a nos Fercher bydd Lisa Gwilym yn cyflwyno’r gerddoriaeth newydd o Gymru.
Nos Iau, bydd Byd Huw Stephens yn chware ei gerddoriaeth ei hun ac ar nos Wener, bydd Penwythnos Geth a Ger gyda thair awr o gerddoriaeth a ffeithiau difyr.
Dydd Sadwrn
Bydd slot newydd i Tudur Owen a’r criw, un o lwyddiannau mawr yr orsaf ar hyn o bryd, bob bore Sadwrn am naw o’r gloch y bore, gydag Ifan Evans yn ei ddilyn am 11:00.
Fe fydd rhaglen Richard Rees yn symud o’i hamser blaenorol i slot newydd am 10.00 fore Sul.
Rhoi cyfle i’r gwrandawyr fwynhau mwy
Wrth drafod y datblygiadau, dywed Betsan Powys, Golygydd Radio Cymru, mewn datganiad:
“Mae’r newidiadau hyn yn rhoi cyfle i’n gwrandawyr fwynhau mwy o’r hyn maent yn ei hoffi ac yn ei werthfawrogi ar Radio Cymru.”