Aaron Ramsey
Neithiwr fe ddangosodd Aaron Ramsey fod ganddo sgiliau annisgwyl oddi ar y cae hefyd.

Yn ystod ymddangosiad ar sioe gwis Sky One, A League Of Their Own, fe ofynnwyd i ‘Rambo’ a oedd eisiau ceisio torri’r record byd ar gyfer gwneud keepy-uppies â phêl golff am 30 eiliad.

Dim problem, meddai chwaraewr canol cae Arsenal – cyn mynd ati i dorri’r record gan jyglo’r bêl ar flaen y clwb golff 61 gwaith mewn ychydig dros 30 eiliad.

Jyst er mwyn gwneud yn siŵr, mae’n debyg bod dyn mewn siwt o’r Guinness World Records yno i gadarnhau bod Ramsey wedi cyflawni’r wyrth.

Nid dyna’r unig beth ddaliodd sylw pobl ar y cyfryngau cymdeithasol o ran ymddangosiad y Cymro ar y cwis.

Pan ofynnodd y cyflwynydd James Corden beth fyddai’r peth cyntaf y byddai’n gwneud petai’n Brif Weinidog am y dydd, ateb Ramsey oedd “anfon Tottenham i lawr” i’r Bencampwriaeth, ateb oedd yn saff o blesio cefnogwyr Arsenal.