Sale 38–5 Dreigiau Casnewydd Gwent

Bydd yn rhaid i’r Dreigiau chwarae oddi cartref yn rownd wyth olaf Cwpan Her Ewrop wedi iddynt orffen yn ail yng ngrŵp 2 ar ôl colli yn Sale nos Iau.

Roedd y rhanbarth o Gymru eisoes wedi sicrhau eu lle yn y rownd gogynderfynol cyn teithio i Stadiwm AJ Bell i wynebu’r Saeson, ond diflannodd eu gobeithion o gêm gartref yn y rownd nesaf wrth i Sale orffen ar frig y grŵp gyda buddugoliaeth gyfforddus.

Gyda Hallam Amos yn y gell gosb i’r Dreigiau fe groesodd Brian Mujati am gais cyntaf Sale wedi 13 munud.

Cais cosb oedd yr ail hanner ffordd trwy’r hanner ac roedd y gêm yn prysur ddiflannu o afael y Cymry pan groesodd Josh Beaumont am drydydd cais ei dîm gyda symudiad olaf yr hanner.

Sicrhaodd Nev Edwards y pwynt bonws i’r tîm cartref yn gynnar yn yr ail hanner wedi gwaith da Danny Cipriani, ac er i Ashton Hewitt sgorio cais cysur i’r Dreigiau, Sale a gafodd y gair olaf wrth i Michael Haley ychwanegu eu pumed cais hwy yn y munudau olaf.

.

Sale

Ceisiau: Brian Mujati 13’, Cais Cosb 20, Josh Beaumont 40’, Nev Edwards 47’, Michael Haley 76’

Trosiadau: Danny Cipriani 15’, 21’, 40’, 48’, Joe Ford 78’

Cic Gosb: Danny Cipriani

.

Dreigiau

Ceisiau: Ashton Hewitt 59’

Cerdyn Melyn: Hallam Amos 10’