Cafodd £136,650 ei godi yn dilyn taith feics er cof am gyn-gricedwr Morgannwg a Swydd Surrey, Tom Maynard fis Hydref y llynedd.
Cafodd y ffigwr terfynol ei gadarnhau gan Ymddirediolaeth Tom Maynard ddydd Mercher.
Hwn oedd yr ail ddigwyddiad ers ei farwolaeth yn 23 oed yn 2012.
Yn wahanol i 2013, pan ddechreuodd y daith yn Stadiwm Swalec yng Nghaerdydd a gorffen yng nghae’r Oval yn Llundain, fe ddechreuodd y daith pum niwrnod yng Nghernyw (Hydref 9) a gorffen yn yr Oval (Hydref 13).
Cymerodd llu o gricedwyr a chyn-gricedwyr ran yn y daith o dros 400 o filltiroedd, gyda’r nod o godi arian ar gyfer Ymddiriedolaeth Tom Maynard – a gafodd ei sefydlu yn dilyn ei farwolaeth – a chronfa les Cymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol (PCA).
Seiclo 90 o filltiroedd o Gernyw i Ddyfnaint oedd yr her i’r criw ar y diwrnod cyntaf, 65 milltir o Ddyfnaint i Taunton ar yr ail ddiwrnod, 100 milltir o Taunton i Southampton ar y trydydd diwrnod, 70 milltir o Southampton i Hove ar y pedwerydd diwrnod, ac yna’r 60 milltir terfynol o Hove i gae’r Oval ar y diwrnod olaf.
Roedd nifer o ddigwyddiadau codi arian ar hyd y daith, gan gynnwys sesiwn holi ac ateb gyda Matt Maynard, tad Tom a phrif hyfforddwr Clwb Criced Gwlad yr Haf, a nifer o giniawau.
Ymhlith y cricedwyr a gymerodd ran yn y daith roedd Mark Wallace, is-gapten Morgannwg a chadeirydd y PCA, a chyn-gricedwyr Morgannwg Ian Thomas a Dan Cherry, cynrychiolwyr o Glwb Criced Swydd Surrey a chyn-sêr Lloegr, Darren Gough a Geraint Jones.
Gwaith Ymddiriedolaeth Tom Maynard
Cafodd yr Ymddiriedolaeth ei sefydlu’n wreiddiol i gefnogi cricedwyr ifainc difreintiedig oedd yn ceisio datblygu eu gyrfa.
Ond erbyn hyn, mae gwaith yr Ymddiriedolaeth wedi ymestyn fel ei fod yn cynnwys rhoi grantiau i bobol ifainc mewn nifer o gampau i helpu gyda hyfforddi ac offer, ac addysg ac ymwybyddiaeth o heriau dilyn gyrfa ym meysydd criced, rygbi a phêl-droed.
Bellach, mae Academi Tom Maynard wedi’i sefydlu yn Sbaen, lle mae hyd at ddwsin o gricedwyr ifainc o’r 18 o siroedd yn derbyn hyfforddiant arbenigol dan oruchwyliaeth ei dad.
Ar eu tudalen Twitter, dywedodd y trefnwyr: “Ymdrech wych. Diolch i bawb a gymerodd ran ac a wnaeth gyfrannu.”