Ar drothwy’r ornest anferthol yn erbyn Lloegr, Garmon Ceiro sy’n sôn am geisio dod i delerau gyda’r golled ddigalon yn erbyn Iran, tra ar antur draw yn Doha…
Wel, nath hynna ddim cweit gweithio mas yn unol â’r cynllun, naddo? Ma’ raid ifi gyfadde’, o’n i’n meddwl bo’ ni di deffro’n reit dda ar ôl hanner cynta’ gwael yn erbyn yr Unol Daleithiau, felly wnes i ddim gweld y golled yn erbyn Iran yn dod – o’n i ddim yn disgwyl iddi fod yn hawdd, ond o’n i’n meddwl fydden ni’n ennill o un gôl.
Ond o’dd hynna mas drw’r ffenest reit handi ar y dydd, wrth inni fethu ’neud dim byd yn iawn. Pasys yn methu’u targed, cyffyrddiade cyntaf anobeithiol, dim cyflymdra yn y tîm ddechreuodd. Ro’dd e’n waeth na’r hanner cynta’ yn erbyn yr Unol Daleithiau. Wa’th inni fod yn onest – o’dd e’n druenus. A thra bod y ffordd ddigwyddodd pethe tua diwedd y gêm yn greulon, do’dd e ddim yn anhaeddiannol.
Wrth inni gerdded allan o’r stadiwm ar ddiwedd y gêm – gan osgoi camerâu teledu a reporters fel y pla er mwyn peidio ca’l ein dal yn rhegi’n gas ar deledu byw rhyngwladol – ro’dd ’na amryw ddadansoddiadau’n cael eu gwyntyllu’n grac. Robert Page yn cael y bai gan rai. Y chwaraewyr gan eraill.
Wath ifi ddweud fy nweud: dw i yn tueddu i roi’r bai ar y rheolwr. Ma’ fe wedi methu datrys dau broblem reit sylfaenol – sef bod ein chwaraewyr gore ni wedi mynd yn hen, a bod ganddon ni, i bob pwrpas, ddim midffîld. Ro’dd ’na dipyn yn diawlo Ramsey ar ôl y gêm, ond ro’dd ei ystadegau rhedeg e cystal ag unrhywun. Do’dd e jyst ddim yn cael ei ddefnyddio’n iawn.
Do’dd y tîm yn erbyn yr Unol Daleithiau ddim yn iawn gan nad oedd ’na ymosodwr. Do’dd y tîm yn erbyn Iran ddim yn iawn, gan nad oedd ’na gyflymder. Dewiswyd y tîm anghywir ddwywaith. OK, dyw e ddim yn helpu na alle neb ar y cae daro pen ôl buwch gyda banjo, ond dyna ni – y rheolwr sy’n gyfrifol yn y pen draw.
Nawr, wrth gwrs, ma’n bosib y gwnawn ni guro’r Saeson yn ein buddugoliaeth hynodaf erioed – a’r si yw fod y chwaraewyr wedi cael ram dam go-iawn gan Page – ond ma’ dowt ’da fi. Y tro hwn rhaid derbyn, falle, fod gwlad fach yn gorfod dibynnu ar hen goesau blinedig, a bod diffygion amlwg iawn yn y tîm.
Pwdu
Y broblem gyda thaith bêl-droed – yn wahanol i wyliau arferol – yw bod y canlyniadau yn effeithio ar eich hwyliau. Dw i ddim yn gollwr gwael o ddydd i ddydd sai’n credu, ond gyda Chymru dw i’n mynd yn grac fel tincer. Alla’i ddim godde fe. A ma’ colli ar y llwyfan mwyaf un gyment gwath eto.
Golyga hyn fod y diwrnod ar ôl colled ar daith gyda fi’n un heriol. Am 24 awr, does fawr ddim all wella fy hwyliau. Doedd y tro hwn yn ddim gwahanol. I ddechrau, nid camerâu teledu oedd yr unig beth oedd yn rhaid eu hosgoi wrth adael y gêm – o’dd rhaid dojo Saeson hefyd. Ma’ mwy a mwy o nhw yma, gyda rhai wedi cael tocynnau i’n gêm ni.
Profwyd fy hunan-reolaeth i’r eithaf ar y metro nôl o’r gêm wrth orfod gwrando ar ddadansoddiad Sais uchel-ei-gloch ohoni fesul munud. Chwarae teg i’r Cymro oedd yn styc yn siarad gyda’r poundshop John Motson, ro’dd e’n dipyn mwy amyneddgar a pholeit na fydden i di bod. Dyw’r bois o’r gwledydd Arabaidd heb fod yn shei yn gweud wrthon ni eu barn, chwaith. Cafwyd prawf arall o fy amynedd wrth i grŵp o fois o Morocco fynnu dweud wrtha i’n ddidrugaredd am wendidau ein tîm. Eu barn nhw oedd bod Gareth Bale yn rhy hen, a bod pawb arall yn “very, very bad”. Anodd oedd anghytuno.
Yn wir, y diwrnod hwnnw, yr unig beth oedd yn gwgu fwy na fi yn souk prysur Doha oedd y camel, druan, oedd â’i draed wedi’u clymu i’r llawr. Fe dreulies i funud yn cydymdeimlo ag e, cyn penderfynu nad oeddwn am ymuno a fy ffrindiau’n yfed Budweiser yn uffern llawen y fan zones – peth dwetha’ o’n i ishe o’dd Mecsican gwyllt mewn sombrero – ac es i nôl i’r gwesty, a phwdu.
Y diwrnod canlynol, ro’dd yr hwyliau dipyn yn well, felly dyma fynd i far. Ro’dd fy ffrindie wedi ca’l llond bol arnai’n cwyno, felly dyma ffindo Almaenwr yn lle – roedden nhw newydd golli i Siapan, bydde fe’n deall. Nawr, dw i ddim yn siwr a ydw i’n credu mewn karma, ond fe ges i lwc y diawl. “Ja, you have had a tough day” medde’r Almaenwr “have these tickets to tonight’s game.” ‘Beth!?’ medde fi. “Ja, my friends don’t turn up until the knockout stages anyway.”
A dyna shwt benes i a fy mêt lan yng ngêm Sbaen yn erbyn yr Almaen. A dim unrhyw hen seti chwaith – ond seti wrth yr halfway line, seti lle na feiddiwch chi bigo’ch trwyn gan fod y byd yn gwylio. Profiad digon od yw gweld gêm o seti drud o’r fath. Ro’dd e’n gipolwg, falle, ar Gwpan y Byd fel ma’ FIFA am iddo fe fod – lot o bobol gyfoethog iawn mewn stadiwm sydd fel shopping mall, yn gwario arian mawr ar stwff i gyfeiliant parhaus Coldplay. A phobol o bob rhan o’r byd yno. Oedd, roedd llawer yn gwisgo crysau’r Almaen a Sbaen, ond ro’ch chi’n ca’l y teimlad y bydden nhw’n gwisgo crysau eraill y diwrnod canlynol. Do’dd e ddim y ffwtbol dw i di arfer ag e, yn sicr. Ond dyna ni – dw i heb arfer â Chwpan y Byd, nadw? Dw i’n Gymro!
Os oes rhywbeth am y Gwpan y Byd yma y ma’r wasg adre wedi’i fethu, falle mai pwysigrwydd y twrnament i’r gwledydd gerllaw yw hynny. Ma buddugoliaethau’r gwledydd Arabaidd wedi’u dathlu ffwl pelt yn y strydoedd ’ma. Mae’n siwr mai rhywbeth felly fyddai cyfiawnhad FIFA.
Ta waeth, ac eithrio gwyrth yn erbyn y Saesnon, gatre fyddwn ni’n mynd yr wythnos hon heb ddangos ein gorau… ond dwi i’n ddiolchgar i bawb ynghlwm â’r tim am y profiad, ac yn ddiolchgar i Thorsten yr Almaenwr am y tocynnau a gododd fy hwyliau!