Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi bod yn trafod cynnig opsiynau hybrid ar gyfer rhannau o’r Brifwyl.
Fel rhan o bartneriaeth newydd gyda pharc gwyddoniaeth M-SParc, bydd yr Eisteddfod yn edrych ar opsiynau ar gyfer cynnal rhannau o’r Eisteddfod dros y we yn y dyfodol.
Y nod ydy sicrhau hygyrchedd yr ŵyl a chynnig cyfleoedd i bawb allu ymuno heb amharu ar yr arlwy wyneb yn wyneb.
Dydy’r Eisteddfod ond yn edrych ar wneud ambell sesiwn hybrid, medden nhw.
Drwy’r cydweithio, bydd M-SParc yn datblygu’r Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg er mwyn dathlu arloesi yn y Gymraeg ac arwain y gwaith o gefnogi sgiliau i bobol ifanc, hefyd.
“Rydyn ni wedi sylweddoli, mae hi’n grêt dod yma, i’r bobol sy’n gallu,” meddai Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc wrth golwg360.
“Mae Cymru’n wlad fach wrth gwrs, ac rydyn ni’n trafeilio ond mae yna bobol efo anxieties sydd ddim yn licio dod i lefydd fel hyn, ella efo anableddau o ran hygyrchedd, Cymry alltud… agor yr Eisteddfod drwy ddigido.
“Rydyn ni i gyd wedi arfer efo Zoom a Teams ac ati rŵan, be ydy’r cyfleoedd i ddarlledu rhai o’r sgyrsiau o’r Cymdeithasau, y Babell Lên dros y we.
“A chreu cymuned yno [ar y we], fel bod pobol yn gallu sgwrsio efo’i gilydd a chael cymuned, er enghraifft cael pabell Golwg neu babell Brifysgol Bangor [ar-lein] a bod pobol yn gallu mynd a dod a siarad efo’i gilydd.
“Ffordd arall o roi mynediad i bobol i’r Eisteddfod a’i fwynhau o, dyna ydy’r gobaith.
“Dyna sy’n bwysig i fi, ei wneud o heb dynnu o’r wrth yr Eisteddfod. Does yna ddim byd fel bod ar y Maes a gweld pobol a chael y teimlad, ond i’r sawl sy’n methu – sut ydyn ni’n gallu eu gwasanaethu nhw?”
‘Cyffrous’
Dydy Pryderi ap Rhisiart heb ddod ar draws unrhyw enghreifftiau o wyliau hybrid, hyd yn hyn, ond mae’n batrwm sy’n dod yn gynyddol gyfarwydd ym myd busnes.
“Wrth gwrs, mae yna ddigwyddiadau hybrid rydyn ni’n dechrau eu gwneud lle mae pobol yn gallu dod a mwynhau ar y we, rhwydweithio a gweld eu ffrindiau ac ati,” meddai.
“Mae’n digwydd fwyfwy mewn busnes ond dw i ddim yn ymwybodol o ŵyl fel hyn sydd wedi’i wneud o, ond dyna pam bod o’n gyffrous.
“Rheswm arall ydy bod gennym ni gwmni ar Ynys Môn sydd yn datblygu’r platfform a’r dechnoleg, a fysa’n stori wych os fysa ni’n gallu cefnogi cwmni bach yn lleol ar yr Ynys a rhoi gwasanaeth i’r Eisteddfod yr un pryd. Mae’n gyffrous.”
Dywedodd Tom Burke, cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddogol Gweithredol Haia, sef y cwmni sy’n datblygu’r platfform ar gyfer cynnal digwyddiadau hybrid, nad oes yna reswm “i bobol sy’n teimlo nad ydyn nhw’n gallu mynd i’r Eisteddfod golli allan”.
“Rydyn ni wrthi’n trafod hyn ar gyfer y dyfodol,” meddai.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld sut mae’r trafodaethau yma’n datblygu.”