Mae gan Lywodraeth Cymru gynllun addysg “creadigol ac “uchelgeisiol”, yn ôl Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Gymraeg ac Addysg.

Daw hyn wrth i’r Llywodraeth baratoi i gyhoeddi Deddf Addysg Gymraeg – rhywbeth y mae wedi ymrwymo i’w wneud yn ystod y Senedd hon.

Mae trafodaeth am ddeddfwriaeth addysg newydd yn digwydd yng Ngwlad y Basg ar hyn o bryd hefyd, ac yn ôl Jeremy Miles, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymgynghori gyda llywodraeth y wlad.

‘Cydraddoldeb’

“Ym mis Rhagfyr 2021, cyflwynodd Euskalgintzaren Kontseilua ddatganiad Batuz Aldatu gyda chefnogaeth yr undeb llafur a’r mwyafrif addysgol,” meddai Paul Bilbao Sarria, Ysgrifennydd Cyffredinol Euskalgintzaren Kontseilua, mudiad sy’n ymgyrchu dros y Fasgeg.

“Yn y datganiad hwn, rydym yn mynnu gweithredu un model cyffredinol o addysg yn seiliedig ar drochi yn y Fasgeg er mwyn gwarantu cydraddoldeb llawn a sicrhau bod pob myfyriwr yn gallu siarad Basgeg pan fyddant yn gorffen addysg orfodol.”

‘Cyfle unwaith mewn cenhedlaeth’

Mae gan Lywodraeth Cymru “gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i lunio deddf fydd yn sicrhau addysg cyfrwng Cymraeg i bawb”, yn ôl Cymdeithas yr Iaith.

“Mae’n warth mai lleiafrif ffodus sy’n cael addysg Gymraeg tra bod 80% o bobl ifanc Cymru yn parhau i astudio ‘Cymraeg Ail Iaith’,” meddai Catrin Dafydd ar ran Grŵp Addysg y Gymdeithas.

“Mae consensws bod y system honno’n amddifadu canran helaeth o blant o’r gallu i siarad Cymraeg yn rhugl, sy’n eu hallgáu o gyfleon yn eu cymunedau, o swyddi ac o holl gyfoeth diwylliant Cymru.

“Mae’r anghyfartaledd ar ei amlycaf ymysg cymunedau difreintiedig, mudwyr a phobl groenliw.

“Os ydy’r Llywodraeth o ddifri bod y Gymraeg yn perthyn i bawb, rhaid i’r ddeddf arfaethedig sicrhau addysg Gymraeg i bawb, ac nid y rhai ffodus yn unig.”

‘Ystod eang o bethau ar waith’

Wrth siarad â golwg360 yn yr Eisteddfod Genedlaethol, dywedodd Jeremy Miles fod Llywodraeth Cymru “wedi bod yn trafod yn ddiweddar gyda Gwlad y Basg”.

“Mae gyda ni gynlluniau ar y gweill eisoes i gyflwyno Deddf Addysg Gymraeg, rydyn ni am wneud hynny yn ystod cyfnod y Senedd yma ac rydyn ni’n cydweithio gyda Phlaid Cymru ar hynny,” meddai.

“Ond rydyn ni hefyd yn gwybod o ran y cynlluniau strategol rydyn ni newydd eu cymeradwyo bod ysgolion yn symud ar hyd y continwwm ieithyddol i ddarparu mwy a mwy o addysg Gymraeg.

“Mae gennym ni gynllun addysg sy’n greadigol, yn uchelgeisiol, ac mae gennym ni ymroddiad i sicrhau ein bod yn ehangu trochi ar draws Cymru.

“Felly mae ystod eang o bethau ar waith eisoes ond mae mwy y gallwn ni wneud mewn deddfwriaeth, yn sicr mae hynny yn wir.”