Mae Llywodraeth Cymru’n “fwy parod i wrando” nag yr oedden nhw yn y gorffennol, yn ôl Cymdeithas yr Iaith.
Daw hyn wrth i’r Gymdeithas baratoi i gynnal rali ar Faes yr Eisteddfod am 2 o’r gloch heddiw (dydd Iau, Awst 4), gan alw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf Eiddo sy’n “gweithio er budd pob cymuned yng Nghymru”.
Bydd protestwyr yn ymgynnull y tu allan i stondin Cymdeithas yr Iaith cyn gorymdeithio trwy’r Maes at uned y Llywodraeth.
Yn ôl Mabli Siriol, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, mae angen deddfwriaeth o’r fath er mwyn rheoli’r farchnad dai a sicrhau cartrefi i bobol yn eu cymunedau.
Mae’r Gymdeithas o’r farn y byddai Deddf Eiddo yn mynd i’r afael â’r “holl broblemau sydd yn y system tai”.
Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi mesurau newydd i fynd i’r afael ag effaith negyddol ail gartrefi.
Mae’r rhain yn cynnwys galluogi cynghorau sir i reoli nifer yr ail gartrefi a’r llety gwyliau mewn unrhyw gymuned.
A lle mae ganddyn nhw dystiolaeth, bydd cynghorau sir yn gallu gorfodi perchnogion i ofyn am ganiatâd cynllunio ar gyfer newid defnydd eiddo tŷ o un dosbarth i’r llall.
Felly, mewn egwyddor, byddai modd i gyngor sir atal troi cartref parhaol yn dŷ haf mewn ardal lle mae gormod ohonyn nhw.
Ar ben hynny, mi fydd yna ofyn cyfreithiol i gael trwydded i gynnal llety gwyliau tymor byr.
Ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gydweithio gyda chynghorau sir i ddatblygu fframwaith cenedlaethol er mwyn gallu cynyddu cyfraddau treth trafodiadau tir uwch ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau mewn ardaloedd penodol.
‘Dim ond un rhan o’r broblem yw ail dai a llety gwyliau’
“Dim ond un rhan o’r broblem yw ail dai a llety gwyliau, mae jyst yn un rhan o’r broblem a rili mae’n symptom o’r diffygion sydd yn y system tai,” meddai Mabli Siriol wrth golwg360.
“Felly rydyn ni’n galw am Ddeddf Eiddo fydd yn cymryd tai a chynllunio allan o’r farchnad rydd a rhoi rheolaeth gymunedol arno fe.
“Rydan ni’n gweld mewn cymunedau ar draws y wlad bod pobol yn cael trafferth cael cartref y maen nhw’n gallu ei fforddio yn eu cymuned nhw, boed hynny’n rhentu neu brynu, ac mae’r problemau’n ymddangos yn wahanol mewn gwahanol ardaloedd.
“Yn lle dw i’n byw yng Nghaerdydd mae prisiau yn ffrwydro a dyw pobol ddim yn gallu fforddio fe.
“Wedyn mewn ardaloedd mwy arfordirol neu wledig lle’r ydan ni’n gweld lot o dwristiaeth rydan ni’n gweld effaith ail dai a llety gwyliau.
“Ac mewn ardaloedd eraill rydan ni’n gweld cymudwyr neu bobol sydd wedi ymddeol yn symud i mewn a phrisio pobol leol allan o dai yn y gymuned.
“Felly mae’r problemau yma i gyd ynghlwm, rydan ni wedi cael degawdau nawr o drin tai fel ased i wneud elw yn lle cartref i bobol a dyna sydd wedi gyrru ni at y sefyllfa yma lle mae un o anghenion mwyaf sylfaenol pobol, dydyn nhw methu fforddio fe.
“Rydan ni gyd yn gwybod pa effaith mae hynny wedyn yn ei gael ar ein cymunedau ni gyda phobol yn cael eu gwthio allan, a’r effaith wedyn ar yr iaith a chryfder yr iaith ar lawr gwlad.
“Felly rydan ni’n galw am Ddeddf Eiddo sy’n symud ni ffwrdd o ddarparu tai ar sail ariannol, cymryd y system tai allan o’r farchnad rydd.
“Rydyn ni eisiau gwneud pethau fel rheoli prisiau tai a lefelau rhent, rhoi blaenoriaeth i bobol leol, sicrhau bod tai newydd yn cwrdd ag anghenion y gymuned, cryfhau hawliau tenantiaid yn ogystal â sicrhau bod y tai sydd gennym ni yn rhai ynni effeithlon ac yn amgylcheddol werdd.”
‘Y Llywodraeth yn fwy parod i wrando’
“Dros y blynyddoedd diwethaf, rydan ni wedi gweld mwy o barodrwydd i wrando gan y Llywodraeth, a dw i’n meddwl bod hynny diolch i ymgyrchu a diolch i’r pwyso sydd wedi digwydd,” meddai wedyn.
“Mae’r pecyn yna o fesurau mae’r Llywodraeth wedi’u cyhoeddi yn bethau rydan ni wedi bod yn galw amdanyn nhw ers blynyddoedd.
“Cwpl o flynyddoedd yn ôl roedd y rheina yn cael ei gweld fel mesurau lot rhy radical, a nawr maen nhw’n bolisi gwlad.
“Y neges yn y fan yna yw bod ymgyrchu’n gweithio.
“Os ydyn ni’n cydweithio, yn defnyddio dulliau gwahanol a’n rhoi pwysau ar y Llywodraeth rydan ni yn gweld gwahaniaeth.
“Dyna pam ein bod ni’n galw ar bobol i ddod i’r rali er mwyn cario ‘mlaen i bwyso achos rydan ni’n gallu symud ymlaen a datrys y broblem yma i bob cymuned.”