Wrth i ras arweinyddol y Blaid Geidwadol ddod i Gaerdydd neithiwr (nos Fercher, Awst 3), fe wnaeth un o’r ymgeiswyr, Liz Truss, gyhuddo Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, o fod yn “fersiwn egni isel o Jeremy Corbyn”.
Mae Truss yn herio Rishi Sunak yn y ras arweinyddol, ac maen nhw wedi bod yn cynnal cyfres o hystingau cyn y bleidlais derfynol.
Mae Truss eisoes wedi cyhuddo Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban, o “geisio sylw” gan ddweud mewn digwyddiad yng Nghaerwysg mai’r peth gorau i’w wneud ei ei “hanwybyddu”.
Fe wnaeth Rishi Sunak hefyd ladd ar Lywodraeth Cymru yn ystod y digwyddiad yng Nghaerdydd, gan ddweud bod angen craffu mwy ar eu perfformiad a thynnu mwy o sylw at eu methiannau.
Dywedodd Liz Truss fod “gormod o bobol yn y wlad hon sy’n teimlo cywilydd ynghylch ein hanes ni, sy’n sarhau ein gwlad ni, sy’n dweud bod ein dyddiau gorau y tu ôl i ni”, gan ychwanegu bod Mark Drakeford “yn un ohonyn nhw”.
Mae hi hefyd wedi cefnogi cynllun dadleuol ffordd osgoi’r M4 yng Nghasnewydd, rhywbeth nad yw Llywodraeth Cymru’n ei gefnogi ac y mae ffrae yn ei gylch o ran pwy sydd â’r pwerau dros y mater.
Mae Liz Truss wedi cyhuddo Mark Drakeford o “negatifrwydd ynghylch Cymru a’r Deyrnas Unedig”.