Mae Andrew RT Davies yn manteisio ar daith i’r Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron heddiw (dydd Iau, Awst 4) i alw am “system placiau glas addas” i Gymru.

Cynlluniau lleol sy’n trefnu placiau glas yng Nghymru ar hyn o bryd, ond mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn dweud ei fod e eisiau gweld cynllun cenedlaethol, a hynny yn dilyn trafodaethau ag etholwyr sydd wedi cael trafferth o ran y drefn bresennol.

Fel rhan o’r cynllun, byddai ymdrechion i godi placiau glas dwyieithog yn cael eu cydlynu’n genedlaethol.

Fe fydd e hefyd yn galw am blac glas i Derrick Hassan, y plismon du cyntaf i weithio i Heddlu’r De, ar y tŷ yn Rhiwbeina yng Nghaerdydd lle’r oedd e’n byw. Bu farw ym mis Mai.

‘Ffordd ardderchog o ddathlu ein hanes’

“Mae placiau glas yn ffordd ardderchog o ddathlu ein hanes,” meddai Andrew RT Davies.

“Maen nhw’n ein hatgoffa o’r bobol ysbrydoledig oedd yn byw yn ein pentrefi, trefi a’n dinasoedd, ac maen nhw’n ein hysbrydoli i geisio gwneud pethau mawr.

“Mae’r system blaciau, fel y mae, yn dameidiog, ac mae pobol yn ei chael hi’n anodd rhyngweithio â hi.

“Dyna pam rwy’n galw am system placiau glas addas i Gymru.

“Fel arfer, mae’r Ceidwadwyr Cymreig eisiau lleihau nifer y cwangos, ond yn yr achos hwn, rwy’n credu ei bod hi’n bwysig cael siop un safle ar gyfer y dynodwyr mawr glas hyn o’n hanes.

“Os yw gweinidogion Llafur yn gwrando arnom ac yn sefydlu’r corff cenedlaethol hwn, byddaf yn gwneud cais am i Derrick Hassan dderbyn plac glas.

“Derrick oedd y plismon du cyntaf i wasanaethu gyda Heddlu De Cymru, ac rwy’n credu y byddai dathlu hyn gyda phlac glas ar ei dŷ yn Rhiwbeina yn ardderchog.”