Mae’r digwyddiad ar-lein mwyaf yn y diwydiant amaeth ar y gweill ers 5 o’r gloch fore heddiw (dydd Iau, Awst 4), a hwnnw’n dathlu ei seithfed blwyddyn eleni.
Mae 24 Awr mewn Ffermio yn tynnu sylw at fywydau ffermwyr, yn egluro prosesau a rôl cynhyrchu bwyd yng ngwledydd Prydain, ac yn dangos sut mae gweithwyr amaeth yn gofalu am gefn gwlad.
Fe wnaeth y digwyddiad gyrraedd 28m o bobol y llynedd, ac mae gofyn i bobol gefnogi’r digwyddiad eto eleni a dangos pa mor falch ydyn nhw o gael gweithio yn y diwydiant.
“Yn fab i ffermwr, dw i’n deall y rôl bwysig sydd gan amaeth yn ein cymdeithas fel cynhyrchwyr bwyd, ceidwaid y tir, a gyrwyr diwylliannol, felly dw i wrth fy modd fod #Farm24 yn ôl i ddathlu ffermio Prydeinig,” meddai Samuel Kurtz, llefarydd materion gwledig y Ceidwadwyr Cymreig.
“Ers amser hir, ffermio yw asgwrn cefn yr economi Gymreig, ac mae’n allforiwr cynnyrch o safon ond wrth i ni ddathlu amaeth yn y wlad hon, mae angen i ni gofio’r rôl rydym ninnau’n ei chwarae.
“Mae yna ddyletswydd arnom i gyd i brynu cynnyrch Prydeinig mor aml â phosib er mwyn cefnogi ein heconomïau a’n diwylliant lleol – os na wnawn ni, yna bydd hi’n fwy anodd fyth i oresgyn yr heriau sy’n wynebu ein ffermwyr.
“Dw i wedi dweud erioed fod angen ffrind ar ffermio, a fy mhlaid i fydd y ffrind hwnnw bob amser.”