Mae Peredur Owen Griffiths, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru, yn galw am ddatganoli’r system gyfiawnder troseddol wrth ymateb i ffigurau marwolaethau cyffuriau “brawychus a gofidus”.

Mae ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod 210 o farwolaethau wedi’u cofnodi yng Nghymru y llynedd, o gymharu â 149 y flwyddyn gynt, sy’n cyfateb i gynnydd o 41%.

Mae’r ffigyrau ar gyfer 2021 gyda’r uchaf ers i gofnodion ddechrau bron i 30 mlynedd yn ôl.

“Mae hyn yn gynnydd brawychus a gofidus yn nifer y marwolaethau o gyffuriau yng Nghymru. Mae pob un o’r marwolaethau hyn yn drasiedi i ffrindiau a theulu’r ymadawedig,” meddai.

“Daeth hyn i’r amlwg mewn cyfarfod diweddar o Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Gamddefnyddio Sylweddau a sefydlais gyda’r elusen gyffuriau Kaleidoscope. Yn ein cyfarfod diwethaf, cafwyd arddangosfa weledol o flodau – wedi’i ymgynnull gan yr elusen Transform – i gynrychioli pob marwolaeth cyffuriau yn y DU dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Rordd yn arddangosfa bwerus a gofidus.

“Yn ei gyfanrwydd, mae hefyd yn dangos nad yw’r status quo ar bolisi cyffuriau yn gweithio a mae’n methu ein pobl a’n cymunedau.”

‘Cyfraith droseddol Lloegr yn dal yn berthnasol i Gymru’

“Mae’n bosib y byddwn ni’n mynd at drin pobl sy’n gaeth i gyffuriau yn wahanol yng Nghymru gyda mwy o bwyslais ar leihau niwed ond mae cyfraith droseddol Lloegr yn dal yn berthnasol i Gymru,” meddai wedyn.

“Mae’n hanfodol bod y system gyfiawnder troseddol wedi’i datganoli fel y gallwn ddatblygu polisi cyffuriau mwy tosturiol a mwy ar sail tystiolaeth sy’n ceisio cael defnyddwyr triniaeth effeithiol ac sy’n gwarchod ein cymunedau.

“Heb ddatganoli’r system gyfiawnder troseddol a newid mawr yn ein dull o fynd i’r afael â chyffuriau, mae arna’i ofn y bydd marwolaethau’n cynyddu ymhellach yn y blynyddoedd i ddod.”