Bydd ymgyrchwyr yn wfftio un o honiadau mawr Saunders Lewis, un o sylfaenwyr Plaid Cymru, ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol heddiw (4 Awst).
Yn ei ddarlith Tynged yr Iaith, a ddarlledwyd ym 1962, dadleuodd Saunders Lewis “pe ceid unrhyw fath o hunanlywodraeth i Gymru cyn arddel ac arfer yr iaith Gymraeg yn iaith swyddogol yn holl weinyddiad yr awdurdodau lleol a gwladol yn y rhanbarthau Cymraeg o’n gwlad … byddai tranc yr iaith yn gynt nag y bydd ei thranc hi dan Lywodraeth Loegr.”
Bydd yr honiad hanesyddol yn cael ei drafod mewn cyfarfod cyhoeddus o’r enw ‘Annibyn-iaith? Y Gymraeg yn y Gymru Annibynnol’ ar Faes y Brifwyl.
Caiff y digwyddiad ei drefnu gan Melin Drafod – grŵp polisi sy’n dweud ei bod yn llunio agenda flaengar ar gyfer Cymru annibynnol.
Yn siarad yn y digwyddiad, mae’r Athro Emyr Lewis, Cadeirydd YesCymru Elfed Williams, Menna Machreth, Llinos Anwyl o Gymdeithas yr Iaith, a’r Aelod o’r Senedd Alun Davies.
‘Cyfle i’r iaith’
Yn ôl Llinos Anwyl o Gymdeithas yr Iaith, byddai annibyniaeth yn rhoi cyfle i’r iaith Gymraeg ffynnu.
“Mae neoryddfrydiaeth yn gwrthdaro ag ymdrechion i sicrhau bywiogrwydd ieithoedd lleiafrifol. Annibyniaeth yw’r cyfle i flaenoriaethu cymunedau, nid cyfalafiaeth,” meddai.
“Mae bodolaeth y Gymraeg o reidrwydd yn plethu gyda materion cymdeithasol eraill megis hawliau pobl traws, yr hawl i fyw yn ein cymunedau, yr hawl i brotestio – mae’r rhestr yn ddi-ben-draw.
“Y cyfle gorau i adfywio’r iaith yn effeithiol yn y tymor hir yw strwythuro cymdeithas sy’n seiliedig ar ddemocratiaeth uniongyrchol, amgylcheddaeth, ffeministiaeth ac amddiffyniad ar gyfer ieithoedd lleiafrifol.”
‘Trosglwyddo’r Gymraeg i’r genhedlaeth nesaf’
Dadleua Elfed Williams, Cadeirydd YesCymru fod y “bygythiad i unrhyw iaith leiafrifol yn deillio o rym y wladwriaeth a ffactorau economaidd”.
“Dim ond 5% yw poblogaeth Cymru o fewn y Deyrnas Unedig, a dim ond 20% o’n poblogaeth sy’n siarad Cymraeg, felly mae ein llais yn llai pwerus ochr yn ochr ag iaith ddominyddol fel Saesneg,” meddai.
“Mae hyn yn arbennig o wir gyda Llywodraeth San Steffan yn tanseilio democratiaeth Gymreig ac yn ystwytho ei chyhyrau unoliaethol.
“Yn y hir dymor gall hyn effeithio ar ganfyddiad pobol o ddefnyddio’r Gymraeg yn y cartref wrth deimlo ei bod yn llai defnyddiol yn gymdeithasol ac yn economaidd y tu allan i’r cartref, felly bydd y duedd o beidio â throsglwyddo’r Gymraeg i’r genhedlaeth nesaf yn parhau oni bai ein bod yn dod yn genedl annibynnol.”
‘Gwladwriaeth annibynnol lwyddiannus’
Dywed Talat Chaudhri, cadeirydd Melin Drafod, fod “sgyrsiau fel hyn yn hanfodol”.
“Mae Cymru yn mynd i ddod yn wlad annibynnol,” meddai.
“Dyna ganlyniad anochel diwedd y prosiect ymerodraethol Prydeinig.
“Yr hyn sydd angen inni fel dinasyddion i’w wneud, fel mater brys, yw trin a thrafod sut i sefydlu gwladwriaeth annibynnol lwyddiannus: un sy’n flaengar ac sy’n cryfhau a chynnal yr hyn sydd yn bwysig i gymunedau ar hyd a lled y wlad.”