Dyw’r “Eisteddfod ddim yn ddigwyddiad gwleidyddol o gwbl”, yn ôl David TC Davies, Is-ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Gwnaeth y sylw yn ystod sgwrs gyda golwg360 wrth iddo ymweld â’r Brifwyl yn Nhregaron heddiw (dydd Iau, Awst 4).

Mae hi wedi bod yn gyfnod cythryblus i’r Blaid Geidwadol, sydd yng nghanol ymgyrch arweinyddiaeth, tra bod heriau megis yr argyfwng costau byw a streic Undeb Cenedlaethol Rheilffyrdd, Morol a Thrafnidiaeth yn pentyrru.

Fodd bynnag, mae David TC Davies yn ffyddiog na fydd ganddo gwestiynau anodd i’w hateb ar y Maes, er ei fod yn cydnabod ei bod hi’n “bwysig iawn bod unrhyw un yn gallu galw i mewn a siarad gyda chynrychiolwyr os ydyn nhw eisiau”.

‘Dim neges wleidyddol’

“Dw i wrth fy modd yn ymweld â’r Eisteddfod,” meddai David TC Davies wrth golwg360.

“Fe wnes i ymweld â’r Urdd yn Ninbych ym mis Mehefin ac roedd yr awyrgylch yno yn wych, felly dw i’n edrych ymlaen at deimlo’r awyrgylch yn yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf ers rhai blynyddoedd.

“Dw i ddim yn meddwl fod yr Eisteddfod yn ddigwyddiad gwleidyddol o gwbl.

“Wrth gwrs mae hi’n bwysig iawn bod unrhyw un yn gallu galw i mewn a siarad gyda chynrychiolwyr os ydyn nhw eisiau.

“Ond does dim neges wleidyddol gyda fi.

“Pan dw i’n ymweld â’r Eisteddfod, dw i’n gwneud hynny fel cynrychiolwr Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r unig neges yw’r ffaith bod y Llywodraeth yn hollol gefnogol o’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig ac rydyn ni eisiau cefnogi’r digwyddiad…

“Dw i’n hapus iawn i drafod pethau os mae rhywun eisiau trafod pethau, ond dw i ddim yn mynd i’r Eisteddfod gydag unrhyw neges oni bai ein bod ni’n cefnogi’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig.

‘Pob un yn cael croeso’

“Mae’r mwyafrif o aelodau’r cyhoedd yn hollol hapus i efallai tynnu coes ychydig bach a chael tipyn o sgwrs,” meddai wedyn.

“Dyw’r rhan fwyaf o bobol ddim yn activists felly dydyn nhw ddim yn mynd i stondin wleidyddol i gael ffrae.

“Dw i’n siŵr bod lleiafrif fyddai’n fodlon troi’r peth yn ryw fath o ffrae, ond dw i’n gobeithio y byddan nhw ddim achos holl bwynt yr Eisteddfod yw ei fod e ddim yn ddigwyddiad gwleidyddol.

“Mae pob un yn cael croeso a dyna’r ffordd y dylai hi fod.”