Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn mynnu gwybod pam fod Cyngor Sir Ceredigion yn defnyddio llaeth ceirch wedi’i fewnforio mewn smwddis ar eu stondin eisteddfod, yn hytrach na llaeth gwartheg lleol.

Mae’r undeb yn galw ar arweinydd y Cyngor i esbonio’r rhesymeg y tu ôl i’r penderfyniad.

Honnodd Cyngor Sir Ceredigion fod y penderfyniad i ddefnyddio llaeth ceirch wedi ei seilio ar bryderon am gadw llaeth ar y tymheredd cywir.

Fodd bynnag, dywed Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Glyn Roberts fod “cwestiynau mawr i’w hateb am yr esgus yma”.

‘Llaeth go iawn’

“Mae Undeb Amaethwyr Cymru – fel degau o sefydliadau eraill – wedi defnyddio llaeth go iawn ar stondinau mewn sioeau a digwyddiadau ers degawdau – hyd yn oed yn y Sioe Frenhinol ychydig wythnosau yn ôl pan oedd y tymheredd yn uwch nag erioed,” meddai Glyn Roberts.

“Does dim byd anghyffredin am y tywydd a’r tymheredd yr wythnos hon, ac mae’r cwestiwn dal yn sefyll ynglŷn â pham bod Cyngor Sir Ceredigion wedi penderfynu hyrwyddo llaeth ceirch sydd wedi ei fewnforio o Ffrainc yn hytrach na llaeth lleol o’r safon uchaf.

“Ceredigion yw un o’r siroedd enwocaf yng Nghymru ar gyfer cynhyrchu llaeth go iawn ac mae’r diwydiant yn gwneud cyfraniad enfawr i economi a diwylliant y sir.

“Mae maes a chystadlaethau’r Eisteddfod yn llawn pobol a phlant sy’n dod o ffermydd llaeth, yn ogystal â phobol sy’n gweithio yn y diwydiant ac mae yna ymdeimlad o ddicter a siom ynghylch dewis llaeth ceirch o Ffrainc yn lle llaeth lleol.”

NFU Cymru’n herio’r penderfyniad i gynnig smwddis di-laeth yn unig yn yr Eisteddfod

Mae’r undeb wedi cyfarfod â Chyngor Sir Ceredigion er mwyn lleisio pryderon