Yn ystod rali Deddf Eiddo ar Faes yr Eisteddfod heddiw (dydd Iau, Awst 4), daeth cadarnhad y bydd rali yn cael ei chynnal yn Llangefni ar Fedi 17.
Y neges glir yn y rali ar y Maes heddiw, yn ôl y Gymdeithas, oedd fod “ymgyrchu’n gweithio a bod angen parhau i ymgyrchu”.
Un o’r siaradwyr oedd Walis Wyn George, fu’n cyfeirio at y grymoedd newydd fydd gan awdurdodau lleol i reoleiddio ail dai a thai gwyliau a gafodd eu cyhoeddi fis Gorffennaf.
“Enillwyd y newidiadau polisi pwysig hyn ‘mond oherwydd ymgyrchu Cymdeithas yr Iaith a grwpiau lleol fel Hawl i Fyw Adra,” meddai.
“Diolch yn fawr a llongyfarchiadau i bob un ohonoch am brotestio, am fynychu y ralïau ac am gyflwyno ymateb i’r dogfennau ymgynghorol gwahanol… ond ar eu pen eu hunain ni fyddant yn arwain at ostyngiad sylweddol yn y niferoedd [o ail dai] neu yn creu mwy o gartrefi wirioneddol fforddiadwy i bobl leol.”
Galwodd am ddeddf eiddo gynhwysfawr fydd yn sicrhau cartref i bawb yn lleol.
Mewn ralïau blaenorol mae Cymdeithas yr Iaith wedi pwyso ar y Llywodraeth i gyflwyno Deddf Eiddo, ond daeth cyhoeddiad heddiw y bydd y rali yn Llangefni ar Fedi 17 yn troi’r sylw at awdurdodau lleol, gan alw arnyn nhw i weithredu’r grymoedd newydd yn llawn ac i bwyso ar y Llywodraeth i gyflwyno Deddf Eiddo.
Diogelu cymunedau
“Mae miloedd wedi bod yn y ralïau i alw am ddeddf eiddo felly does dim dwywaith bod y cyhoedd eisiau diogelu eu cymunedau trwy Ddeddf Eiddo,” meddai Osian Jones, un o drefnwyr y rali ac ymgyrch Nid yw Cymru ar Werth.
“Mae’r Llywodraeth wedi dechrau gwrando felly mae angen i ni barhau gyda’n hymgyrch ac mae angen i eraill ymuno â’r alwad am gartrefi.
“Byddwn ni’n cynnal y rali nesaf yn Llangefni er mwyn galw ar Gyngor Môn a chynghorau ledled Cymru i wneud defnydd llawn o’r grymoedd newydd i reoli ail gartrefi a llety gwyliau, ac i wrando ar bobol leol a chodi llais ar eu rhan a gyda nhw i ddiogelu cymunedau trwy bwyso ar y Llywodraeth i gyflwyno Deddf Eiddo.”
Bydd y Gymdeithas yn parhau i gadw pwysau yn genedlaethol er hynny ac yn cynnal seminar ar gynnwys Deddf Eiddo yn y Senedd ym mis Hydref.