Ein blogiwr technoleg, Bryn Salisbury, sy’n ystyried goblygiadau datgeliadau Edward Snowden ar y defnydd o’n data.
Dros y misoedd diwethaf, mae cryn dipyn o sylw wedi bod ar anturiaethau Edward Snowden (cyn-ymgynghorwr i’r NSA), a’i waith o gyhoeddi cyfrinachau lluoedd diogelwch Prydain a’r UDA.
‘Da ni wedi dysgu bod yr NSA mwy na thebyg nawr yn gallu ysbio ar bron pawb yn y byd, a bod bron dim rhwystr cyfreithiol iddynt bellach (mae’r sefyllfa i ryw raddau’n well yma ym Mhrydain, ond dim llawer).
Mae’r ddadl nawr yn dod lawr i’r cwestiwn a yw Snowden wedi difrodi ymdrechion y lluoedd diogelwch i’n hamddiffyn ni rhag terfysgwyr, ac os bod digon o sylw yn cael ei rhoi i hawliau pobl i fynd o gwmpas ei bywydau heb fod pobol yn ysbio arnynt.
Niwed i’n diogelwch ni?
I ddelio gyda’r cwestiwn cyntaf – ydi Snowden wedi difrodi ymdrechion y lluoedd diogelwch? Eithaf sicr ei fod o wedyn.
Drwy dynnu sylw at y dulliau, mae pobol nawr yn gallu newid eu ffyrdd o gyfathrebu, sydd efallai’n cau ffynonellau o wybodaeth sydd wedi bod o ddefnydd iddynt.
Er enghraifft, yn lle dibynnu ar Google i amgryptio eu cyfathrebiad, maen nhw nawr efallai yn rhoi ffeil sydd wedi ei amgryptio’n bellach yn y neges, neu’n gyrru cerdyn SD yn y post sydd wedi ei amgryptio.
Beth am ein hawliau?
Y cwestiwn nesaf ydi a oes digon o sylw ar hawliau? Wel, mae hwn yn gwestiwn llawer pwysicach.
Mae’r deddfau yn y wlad yma yn mynnu bod cwmnïau’n gorfod cadw data cyfathrebu (sef ‘pwy’, ‘ble’, a ‘pryd’ o bob defnydd o’r we – ond nid y neges) hyd at flwyddyn. Mae hwn ar gael os oes cais yn cael ei wneud gan aelod cyfrifol tu mewn i’r corff sydd â hawl i ofyn am y data (mae’r rhestr o grwpiau sydd yn gallu gwneud hyn yn ddiddorol dros ben).
Mae ’na gasgliad diddorol o achosion gan Big Brother Watch o’r defnydd gan gynghorau o’r grymoedd, sydd ddim i weld yn cyfateb i’r rhesymeg dros y ddeddf yn y lle cyntaf (i warchod ni rhag terfysgwyr).
Yn sicr, mae David Blunkett (prif bensaer y ddeddf) wedi dweud yn ddiweddar ein bod ni efallai wedi mynd yn rhy bell … sydd i mi yn ychydig rhy hwyr!
Osgoi’r ddeddf?
Mae’n debygol hefyd bod asiantaethau diogelwch ein gwlad yn cymryd mantais o’r cysylltiadau agos gyda’r Americanwyr i gael mynediad at ddata heb orfod mynd drwy’r broses o ofyn caniatâd.
Gan fod y data wedi dod drwy’r cytundebau gyda’r Americanwyr, does dim angen cael yr un math o ganiatâd os ydyn nhw eisoes wedi mynd drwy’r broses ddeddfau.
Eto, does dim deddf wedi ei thorri, ond mae’n ychwanegu i’r syniad eu bod nhw’n mynd yn erbyn bwriad y ddeddf.
‘Da ni’n byw mewn gwlad sydd â deddfau, ac os ydan ni’n torri, nid yn unig gair, ond bwriad y rheolau er mwyn ei amddiffyn, beth yn union ’da ni’n ennill?
Ni sy’n dioddef
Mae camddefnyddio deddfau o’r fath hefyd yn niweidio ein hyder mewn cwmnïau technoleg hefyd, gan ein bod ni’n methu bod yn sicr eu bod nhw’n cydweithio efo’r llywodraeth. Mae’r diffyg gwybodaeth ddibynadwy yn mynd i nadu pobol rhag bod â ffydd fod eu data yn ddiogel (gan fod drws i’r Llywodraeth hefyd yn ddrws i’r lladron).
Os fydd budd y dechnoleg yn diflannu, ‘da ni wedyn yn mynd i barhau i ddefnyddio hen systemau a chyfleusterau, a bydd ein gwlad yn cael ei gadael ar ôl. A gyda’r pwyslais ar economi ddigidol, bydd niwed sylweddol i ddyfodol ein gwlad.
Ymateb y llywodraeth ddylai fod i ddiweddaru’r deddfau gan sicrhau bod corff annibynnol fel y llysoedd yn edrych ac yn caniatáu mynediad i’r data, a bod adolygiad ar ôl yr achos, gyda chosbau llym i unrhyw berson sy’n camddefnyddio’r pwerau.
Os nad oes ymdrech nawr i sicrhau fod dim camymddwyn, bydd y fath drafferthion yn parhau … a ni fydd yn dioddef.
Gallwch ddilyn Bryn ar Twitter ar @bryns.