Rheolwr Cymru Warren Gatland
Mae Rhys Priestland wedi’i enwi fel maswr gan Warren Gatland yn nhîm Cymru i wynebu De Affrig brynhawn ddydd Sadwrn yn gêm gyntaf cyfres yr Hydref.
Mae’r asgellwr Eli Walker a’r clo Bradley Davies hefyd ymysg y pymtheg fydd yn dechrau’r gêm, gyda lle ar y fainc yn unig i James Hook a dim lle o gwbl yn y 23 i Dan Biggar.
Mae Scott Williams wedi cael ei ddewis i bartneru Jonathan Davies yng nghanol y cae yn sgil absenoldeb Jamie Roberts gydag anaf.
Ac mae anaf i Alex Cuthbert hefyd yn golygu fod asgellwr y Gweilch Eli Walker, sydd heb ennill cap dros Gymru eto, wedi cael ei ddewis o flaen Liam Williams pan fyddan nhw’n herio’r Springboks.
Bradley Davies ac Alun Wyn Jones yw’r ddau glo yn y tîm, tra bod Dan Lydiate yn cael ei ddewis cyn Justin Tipuric fel blaenasgellwr.
Lle ar y fainc yn unig sydd i James Hook – ond bydd Dan Biggar, a chwaraeodd ran mor flaenllaw ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad i Gymru’r flwyddyn yma, yn siomedig tu hwnt nad oes lle iddo hyd yn oed ar y fainc.
Cyfle i Eli
Dywedodd Gatland wrth gyhoeddi’r garfan fod hwn yn gyfle i Gymru brofi’u hunain yn erbyn y goreuon.
“Dy ni wastad yn hoffi profi’n hunain yn erbyn y goreuon a dyna fydd hi ddydd Sadwrn gyda gêm enfawr yn erbyn De Affrig,” meddai Gatland.
“Ers i ni fod gyda’n gilydd, mae’r gystadleuaeth yn y garfan wedi bod yn dda ac mae’n wych cael Rhys a Dan yn ôl efo ni.
“Mae Eli wedi creu argraff dda gyda’i ranbarth a thra’i fod gyda ni ac mae’n gyfle gwych iddo wneud ei farc mewn tîm profiadol iawn.”
Her yr Hydref
Bydd Cymru’n agor ymgyrch yr hydref gyda’r ornest yn erbyn De Affrig brynhawn Sadwrn yn Stadiwm y Mileniwm, cyn herio’r Ariannin ar yr 16eg, Tonga ar nos Wener yr 22ain, a chloi gyda gêm yn erbyn Awstralia ar y 30ain.
Mae capten Cymru Sam Warburton eisoes wedi galw ar y tîm i wneud yn siŵr eu bod yn trechu un o gewri hemisffer y de yn ystod y mis nesaf.
Dim ond unwaith mewn 26 ymgais y maen nhw wedi ennill yn erbyn De Affrig – y gêm agoriadol iddyn nhw chwarae yn Stadiwm y Mileniwm fel mae’n digwydd.
Ac maen nhw wedi colli i Awstralia yn eu wyth gêm ddiwethaf, gan gynnwys y gêm trydydd safle yng Nghwpan y Byd 2011 ac ar eu taith yno yn 2012.
Gorffennodd De Affrica yn ail yn y Bencampwriaeth Rygbi’r mis diwethaf, gan golli i Seland Newydd 38-27 yn y gêm olaf.
Ond fe drechon nhw Awstralia ddwywaith yn ystod y bencampwriaeth, gan gynnwys eu chwalu 12-38 fis yn ôl, gyda’r Wallabies yn llwyddo i ennill yn erbyn yr Ariannin ddwywaith yn unig.
Tîm Cymru
Blaenwyr: 1. Gethin Jenkins, 2. Richard Hibbard, 3. Adam Jones, 4. Bradley Davies, 5. Alun Wyn Jones, 6. Dan Lydiate, 7. Sam Warburton (capten), 8. Toby Faletau
Cefnwyr: 9. Mike Phillips, 10. Rhys Priestland, 11. Eli Walker, 12. Scott Williams, 13. Jonathan Davies, 14. George North, 15. Leigh Halfpenny
Mainc: Scott Andrews, Ken Owens, Paul James, Luke Charteris, Justin Tipuric, Lloyd Williams, James Hook, Liam Williams