Mae Neil Taylor wedi mynegi siom enfawr tîm Abertawe ar ôl colli’r ddarbi i Gaerdydd dros y penwythnos, ac wedi addo y bydden nhw’n ceisio ymateb gyda chanlyniadau’r wythnos yma.

Mae Abertawe yn teithio i Kuban Krasnodar o Rwsia yng Nghynghrair Ewropa nos Iau, cyn herio Stoke yn Stadiwm y Liberty brynhawn Sul.

Roedd peniad gan gyn-amddiffynnwr Abertawe, Steven Caulker, wedi awr o chwarae yn ddigon i gipio buddugoliaeth i’r Adar Gleision o 1-0.

Ac mae’r amddiffynnwr wedi addo y bydd yr Elyrch yn ceisio gwneud yn iawn am y golled ar y cyfle cyntaf posib.

“Da ni wedi’n siomi’n fawr dros y cefnogwyr,” meddai Taylor yn y South Wales Argus.

“Da ni’n gwybod faint roedd o’n ei olygu iddyn nhw – roedden nhw os rhywbeth yn fwy swnllyd na chefnogwyr Caerdydd ddydd Sul.”

“Gawson ni ddim y canlyniad iddyn nhw, ond os enillwn ni nos Iau a dydd Sul, gobeithio gallwn ni ei anghofio. Rhaid i ni symud ymlaen.”

“Dylen ni fod wedi sgorio yn y deg, pymtheg munud cyntaf. Roedden ni’n pasio’r bêl o gwmpas a doedden nhw ddim yn agos iddi, ond fe wnaethon ni eu gadael nhw nôl mewn. Fe wnaeth un eiliad newid gwedd y gêm.”

Anaf i Michu

Cadarnhaodd rheolwr Abertawe Michael Laudrup fod yr ymosodwr Michu yn debygol o fethu “cwpl o gemau” gydag anaf ar ôl iddo rolio’i ffêr yn y gêm brynhawn Sul.

Bu’n hercian am rai munudau yn yr ail hanner ar ôl dioddef yr anaf, cyn cael ei eilyddio am Wilfried Bony – rhywbeth oedd yn drobwynt yn y gêm yn ôl capten Abertawe Ashley Williams.

“Dyw Michu ddim 100% ar hyn o bryd, mae’n dioddef gydag ychydig o broblemau corfforol,” meddai Laudrup wrth BBC Sport wedi’r gêm.

“Roedd rhaid iddo adael y cae ar ôl troi ei ffêr, felly mae’n siŵr y bydd allan am gwpl o gemau.

“Siom yw’r gair mwyaf priodol i ddisgrifio sut mae pawb yn teimlo nawr. Mae colli wastad yn siomedig, ond mewn gemau fel hyn yn fwy na dim.

“Dy ni ddim yn credu y gwnaethon nhw greu digon i haeddu ennill y gêm, ond ar y cyfan daeth hi lawr i fanylion bach. Enillon nhw’n anffodus, ac mae’n rhaid i ni dderbyn hynny.”