Sebastian Vettel
Sebastian Vettel oedd yn fuddugol unwaith yn rhagor yn Grand Prix Abu Dhabi, ac yntau eisoes wedi selio Pencampwriaeth y Byd Fformiwla 1 yr wythnos diwethaf ar ôl ennill yng Nghorea. Phil Kynaston sydd yn bwrw golwg dros rasio’r penwythnos.
Rhagbrawf gwael i Alonso
Mark Webber yrrodd yr amser cyflymaf yn y rhagbrofion gyda Vettel tu ôl iddo ar ôl gwneud camgymeriad bach yn y gornel gyntaf.
Ar y llaw arall methodd Fernando Alonso â mynd drwyddo i’r trydydd sesiwn (ble mae’r 10 cyflymaf o’r ail sesiwn yn cael 10 munud i osod eu hamseroedd ar gyfer eu safleoedd ar y grid) am y tro cyntaf y tymor yma, i gychwyn yn 11eg – sydd wir yn amlygu’r problemau rhagbrofol mae Ferrari wedi cael tymor yma.
Mae ei gyd-yrrwr Felipe Massa fel petai wedi cael ei ryddhau o’r awenau ers i’w dîm ei ollwng ar gyfer 2014, gan orffen yn uwch nag Alonso am y pumed tro mewn saith ras.
Nico Rosberg oedd yn drydydd gyda Hamilton yn bedwerydd. Kimi Raikkonen ddylai wedi bod nesaf ond cafodd ei ddiarddel i waelod y grid wrth i’r stiwardiaid ddweud bod maint yr hyblygrwydd yn llawr ei gar yn ormodol (gan godi Alonso i 10fed) .
Dim tâl i Kimi
Roedd si wedi na fyddai Raikkonen yn troi fyny ar gyfer y ras mewn protest gan nad yw wedi cael ei dalu o gwbl tymor yma, gyda’i dîm Lotus mewn trafferthion ariannol.
Yn y sefyllfa yma, mae gan yrwyr yr opsiwn i gychwyn yn lôn y pit (gan ymuno â’r trac 20 eiliad ar ôl y gweddill). Mae hyn yn rhoi’r opsiwn i dimau newid gosodiad y car e.e. rhoi llai o aden ar y car er mwyn gwneud hi’n haws i oddiweddyd. Penderfynodd Lotus yn erbyn hyn.
Byddent yn difaru’r penderfyniad yn syth, wrth i ras Raikkonen ddod i ben ar y gornel gyntaf ar ôl iddo wrthdaro â Giedo van der Garde. Ond ar yr ochr bositif, o leiaf ni fyddai’n rhaid i Lotus dalu bonws pwyntiau iddo am y ras yma!
Vettel yn manteisio
Ar y blaen, wedi i Webber gael ei ddechreuad gwael arferol, fe achubodd Vettel y blaen arno ac adeiladu bwlch rhyngddo fo a’r gweddill. Roedd y bwlch mor fawr nes bod modd iddo bitio ac ailymuno yn y safle cyntaf, ac wedyn mynd ymlaen i arwain pob lap!
Y Ferraris oedd brysuraf yn ystod y ras, wrth i Massa basio Lewis Hamilton tra bod Hamilton yn canolbwyntio ar Adrian Sutil o’i flaen o.
Bu Alonso mewn symudiad dadleuol wrth iddo gymryd ei bedwar olwyn oddi ar y trac wrth adael y pits i geisio pasio Jean-Eric Vergne. Penderfynodd y stiwardiaid i beidio â’i gosbi – yn fy marn i oherwydd bod yna nunlle arall i Alonso fynd.
Cafodd drip i’r ysbyty yn ddiweddarach yn dilyn amheuon o anaf i’w gefn (doedd ‘na ddim) – aeth signal awtomatig i ffwrdd yn ei gar gan ei fod wedi cael trawiad o 28G yn erbyn y cwrbyn yn y symudiad.
Red Bull orffennodd yn un-dau cyfforddus, gyda Rosberg yn drydydd a Grosjean yn bedwerydd.
Cafodd Alonso ras eithaf cryf i godi i’r pumed safle erbyn y fflag, tra cafodd Nico Hulkenberg ras wan y tro yma i orffen yn 14eg ar ôl cychwyn yn chweched.
Roedd ras Paul di Resta ar y llaw arall yn well nac yn ddiweddar wrth iddo orffen yn chweched o flaen Hamilton.
Mae’r ras nesaf yn UDA mewn pythefnos.