Wrth i Noson Tân Gwyllt agosáu doedd ‘na ddim llawer o sbarc i’w weld ar Barc Eirias, ond fe wnaeth Rygbi Gogledd Cymru ddigon i gipio buddugoliaeth bwysig yn erbyn Beddau brynhawn Sadwrn.

Roedd dau gais i’r tîm cartref gan Tom Blackwell a Carwyn ap Myrddin yn ddigon i drechu tair cic gosb gan yr ymwelwyr, gyda RGC 1404 yn fuddugol o 10-9 ar y chwib olaf.

Dechrau ar dân

Ar ôl rhediad da o gemau gan gynnwys ennill eu tair diwethaf, roedd RGC yn hyderus o fuddugoliaeth, ac fe ddechreuon nhw’n llawn pwrpas.

Cyfunodd y canolwyr Mike Jones a Huw Grundy i dorri llinell amddiffyn Beddau yn y munud cyntaf, ac o gic gosb a roddwyd i RGC yn dilyn hynny penderfynwyd mynd am y gornel er mwyn ceisio manteisio’n gynnar.

Ac fe lwyddon nhw i sgorio’r cais wedi tair munud, gyda’r asgellwr Tom Blackwell yn croesi i’w rhoi nhw 5-0 ar y blaen.

Parhaodd RGC i roi Beddau o dan bwysau, gyda Mike Jones yn cyfuno gyda Josh Leach i dorri’r llinell fantais unwaith eto ond y mewnwr yn methu a darganfod yr asgellwr Carwyn ap Myrddin i orffen y symudiad.

Trosodd Beddau gic gosb ychydig funudau yn ddiweddarach am eu pwyntiau cyntaf o’r prynhawn, ac yn fuan wedi hynny ciciwyd tri phwynt arall gan yr ymwelwyr i’w rhoi nhw 6-5 ar y blaen.

Methu a manteisio

Roedd yr oruchafiaeth gan RGC yn y sgrym, ac fe ddefnyddion nhw’r grym hwnnw sawl gwaith yn yr hanner cyntaf i geisio gwthio am gais arall, ond yn ofer. Methwyd cyfle euraidd pan gawson nhw gyfle o dri ymosodwr yn erbyn un amddiffynnwr, ond oedodd Carwyn ap Myrddin â’i bas ac fe gafodd ei daclo.

Fe gawson nhw’u cosbi am beidio â manteisio cyn yr egwyl wrth i gefnwr Beddau lwyddo gyda chic gosb enfawr o’n agos at y llinell hanner i ymestyn y bwlch i 9-5.

Ar ôl yr egwyl bu Huw Grundy ac Afon Bagshaw’n peri problemau i’r gwrthwynebwyr gyda rhediadau peryglus, ac roedd Rhodri Carton-Jones yn rheoli’r gêm gyda’i gicio hefyd wrth i RGC gael y gorau o’r meddiant a’r tir.

Ond wrth i’r ail hanner barhau’n ddi-sgôr cynyddu oedd pryder y dorf ynglŷn â gallu’r tîm cartref i fanteisio ar eu goruchafiaeth.

Fodd bynnag, yn y munudau olaf fe dorrodd RGC drwy fwlch yn amddiffyn Beddau ar ôl pymtheg cymal o chwarae, ac ar ôl i’r pac gael eu hatal fodfeddi o’r llinell gais, cafodd y bêl ei hailgylchu i’r cefnwyr, gyda Carwyn ap Myrddin yn croesi am gais a buddugoliaeth i’r Gogleddwyr.

Brwydro nes y diwedd

Cafodd y blaenasgellwr Tom Parry ei enwi’n seren y gêm i RGC, ac fe dalodd hyfforddwr RGC Damian McGrath deyrnged i’r chwaraewyr am frwydro nes y diwedd i sicrhau’r fuddugoliaeth.

“Ar ddiwedd y dydd buddugoliaeth yw buddugoliaeth,” meddai McGrath.

“Chwarae teg i Beddau ddaeth fyny ac amddiffyn yn galed drwy’r ail hanner. Roedden ni’n anlwcus gyda’r holl feddiant a thir y cawson ni ein bod ni ar ei hôl hi ar hanner amser.”

“Mae’n dangos pa mor bell mae’r chwaraewyr yma wedi datblygu’i bod nhw wedi wynebu’r prawf ‘ma, sticio i’r cynllun, ddim wedi panicio, ac wedi chwarae i’r chwib olaf i gael y canlyniad.”

Mae’r fuddugoliaeth yn codi RGC 1404 i’r trydydd safle yn nhabl y Bencampwriaeth gyda 28 pwynt o’u naw gêm hyd yn hyn, tri phwynt y tu ôl i Arberth ond 14 pwynt y tu ôl i Lyn Ebwy.

Mae eu gêm nesaf nhw i ffwrdd o gartref ym Mhen-y-Bont ar 23 Tachwedd.

Dyma fideo o ymarfer RGC 1404 yn ystod yr wythnos cyn y gêm, gyda rhai o’r chwaraewyr yn cyflwyno’i hunain: