Gareth Bale
Os nad oedd
Gareth Bale wedi disgleirio’r wythnos diwethaf yn yr El Clasico, fe wnaeth o’n sicr ateb y beirniadaethau’r wythnos yma gyda dau berfformiad gwefreiddiol.

Nos Fercher oedd y tro cyntaf i Bale ddechrau gêm gartref i Real Madrid yn y Bernabeu, gyda’r cyfryngau a chefnogwyr yn Sbaen eisoes yn mynd yn ddiamynedd wrth ddisgwyl iddo danio.

Ond wnaeth o mo’u siomi. Sgoriodd ddwy, y gyntaf wrth daranu’r bêl i gornel uchaf y rhwyd o bymtheg llath, a’r ail yn gic rydd a wyrodd oddi ar y wal, wrth i Real drechu Sevilla 7-3. Fe greodd goliau i Benzema a Ronaldo hefyd.

A nos Sadwrn bu wrthi eto, gan greu dwy gôl i Benzema a Ronaldo unwaith yn rhagor wrth i Real ennill 3-2 i ffwrdd o adref yn erbyn Rayo Vallecano.

Sgorio oedd hanes Aaron Ramsey dros y penwythnos hefyd, wrth iddo rwydo perl o gôl ar gyfer ail Arsenal i drechu Lerpwl 2-0 ddydd Sadwrn, gan reoli’r bêl cyn taro ergyd wych dros y golwr Simon Mignolet. Mae’r fuddugoliaeth yn cadw Arsenal ar frig y tabl.

Roedd tri Chymro’n chwarae yn y gêm ddarbi fawr y penwythnos yma hefyd, a phob un ohonynt ar y cae am y 90 munud – ond Craig Bellamy a Chaerdydd oedd yn fuddugol o 1-0 wrth gwrs, gydag Ashley Williams a Neil Taylor yn wynebu’r siom gydag Abertawe.

Ni ildiodd Boaz Myhill wrth i West Brom ennill yn gyfforddus 2-0 yn erbyn Crystal Palace – Danny Gabbidon oedd yr unig Gymro a chwaraeodd iddyn nhw’r penwythnos yma.

Ac ar ôl dychwelyd o fod ar fenthyg yn Bournemouth, dechreuodd Jack Collison i West Ham mewn gêm ddi-sgôr yn erbyn Aston Villa.

Yn y Bencampwriaeth, parhaodd Sam Vokes ei dymor disglair hyd yn hyn gyda gôl arall wrth i Burnley sicrhau gêm gyfartal 2-2 yn erbyn Millwall i aros ar y brig – ei nawfed gôl yn y gynghrair y tymor hwn sy’n ei roi yn safle’r ail sgoriwr uchaf.

Aeth pethau ddim cystal i Chris Gunter a Hal Robson-Kanu, y ddau yn chwarae gemau llawn ond eu tîm Reading yn cael crasfa 5-2 yn erbyn Sheffield Wednesday.

Cafodd seren yr wythnos diwethaf, Wayne Hennessey, fawr o lwc chwaith wrth i Yeovil golli 2-0 i Leeds i aros yn y tri gwaelod.

Ac fe gafwyd gemau llawn i Andrew Crofts, Rhoys Wiggins, Simon Church, David Cotterill, Joel Lynch, Jazz Richards ac Andy King, gyda Steve Morison yn dod oddi ar y fainc am ugain munud.

Cafodd Joe Ledley 70 munud i Celtic yn eu gêm gyfartal gyda Dundee, ac fe chwaraeodd Sam Ricketts ac Owain Fôn Williams yn Adran Un.

Seren yr wythnos: Gareth Bale – dim amheuaeth. Ateb ei feirniaid gyda dau berfformiad gwych.

Siom yr wythnos: Ashley Williams – nôl o anaf bellach fel capten, ond colli’r ddarbi’n siom enfawr.