Roedd ambell un o’r Cymry’n absennol eto dros y penwythnos gyda gemau’r Hydref ar y gweill, gan gynnwys George North a Dan Lydiate sydd yng ngharfan Cymru.
Ond fe chwaraeodd James Hook a Luke Charteris dros Perpignan ddydd Sadwrn cyn iddynt hwythau ymuno a’r garfan. Yn anffodus colli 22-9 i Oyonnax oedd eu hanes gyda Hook yn cicio tair cic gosb – ychydig sioc o ystyried fod y gwrthwynebwyr un safle’n o waelod y tabl.
Ond braf iawn oedd gweld Charteris yn ôl o’i anaf gan ddechrau ei gêm gyntaf dros y clwb y tymor yma, ar ôl dod oddi ar y fainc ddwywaith yn yr wythnosau diwethaf.
Dechreuodd Aled Brew ar yr asgell i Biarritz hefyd wrth iddyn nhw gipio buddugoliaeth annisgwyl o 9-6 yn erbyn Racing Metro – eu buddugoliaeth gyntaf mewn naw, ac maen nhw’n dal ar waelod y tabl.
Ar ôl y siom o beidio â chael ei ddewis dros Gymru ar gyfer gemau’r Hydref, roedd Lee Byrne nôl gyda’i glwb nos Wener hefyd, gan ddechrau wrth i Clermont frwydro i gêm gyfartal 22-22 yn erbyn Castres.
Gyda’r Cymro ddim yn rhan o dîm Clermont y penwythnos diwethaf roedd wedi bod yn wythnos ddiflas iddo ef, ond ar ôl dychwelyd i’r tîm gall ond gobeithio parhau i wneud yn dda i’w glwb tra bod ei ddyfodol rhyngwladol yn edrych yn llwm ar hyn o bryd.
Gyda North allan, Paul James oedd yr unig enw yng ngharfan Cymru i chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr, wrth i Gaerfaddon drechu Caerwrangon 21-6 nos Wener, gyda Jonathan Thomas yn gapten i’r gwrthwynebwyr.
Chwaraeodd Tom James a Phil Dollman dros Gaerwysg hefyd wrth iddyn nhw ennill oddi cartref 16-18 yn erbyn Sale, gyda rheolwr Caerwysg yn mynegi ei syndod yn ddiweddar nad yw Dollman wedi cael ei ystyried gan Gymru na Lloegr ar y lefel rhyngwladol eto.
Roedd Eifion Lewis-Roberts a Dwayne Peel ymysg y chwaraewyr ddechreuodd i Sale, gyda Marc Jones a Jonathan Mills ar y fainc.
Ciciodd Owen Williams dair cic gosb a throsiad dros Gaerlŷr, ond doedd hi ddim yn ddigon wrth iddyn nhw golli 16-23 yn erbyn Harlequins.
Dechreuodd Ian Gough wrth i Wyddelod Llundain golli 14-19 yn erbyn Northampton, tra bod Will James yn nhîm Caerloyw gollodd mewn gornest gyffrous o 30-32 yn erbyn Wasps Llundain.
Seren yr wythnos: Luke Charteris – neb yn sefyll allan, ond Charteris yn dechrau gêm gyntaf ers dychwelyd o anaf.
Siom yr wythnos: James Hook – dim byd mawr o’i le, ond ei dîm yn colli gêm annisgwyl.