Mae’r heddlu wedi canmol cefnogwyr timau Caerdydd ac Abertawe am fihafio’n dda yn ystod y gêm ddarbi gynta’ rhwng y ddau glwb yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Chafodd neb o gwbl ei arestio cyn, yn ystod nac ar ôl y gêm, meddai Heddlu De Cymru ar ôl y gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd neithiwr.

Roedd bron 27,500 yno ac roedd mesurau diogelwch llym ar ôl gwrthdrawiadau ffyrnig rhwng cefnogwyr y ddau glwb yn y gorffennol.

“Trwy gydweithio gyda’r ddau glwb, fe lwyddon ni i greu amodau di-drafferth i bawb a oedd yno ac argraff bositif i’r miliynau o bobol oedd yn gwylio ar y teledu o amgylch y byd,” meddai’r Uwch-arolygydd Tony Smith a oedd yn rheoli gwaith yr heddlu.

Roedd hefyd yn canmol y stiwardiaid yn y stadiwm.