Caerdydd 1–0 Abertawe
Caerdydd aeth a hi yn y gêm ddarbi Gymreig gyntaf erioed yn Uwch Gynghrair Lloegr brynhawn Sul. Roedd gôl cyn chwaraewr Abertawe, Steven Caulker, toc wedi’r awr yn ddigon i’r tîm cartref gipio’r pwyntiau i gyd yn Stadiwm y Ddinas.
Gorffennodd yr Elyrch y gêm gyda deg dyn hefyd wedi i’r gôl-geidwad, Michel Vorm, gael ei anfon o’r cae yn hwyr yn y gêm, gan orfodi’r amddiffynnwr, Angel Rangel, i wisgo’r menig yn y munudau olaf.
Dechrau Diflas
Bu hir ymaros am y frwydr hon ond braidd yn siomedig a diflas oedd yr hanner cyntaf gwaetha’r modd.
Caerdydd a gafodd y gorau’r o’r hanner awr cyntaf heb os ond yr ymwelwyr a gafodd y cyfleoedd gorau. Tarodd Miguel Michu foli dros y traws wedi pum munud ac arbedodd David Marshall gynnig arall gan y Sbaenwr ychydig funudau’n ddiweddarach.
Gorffennodd Abertawe’r hanner yn gryfach ond doedd y naill dîm na’r llall yn edrych yn debygol o sgorio mewn gwirionedd.
Roedd hi’n gêm dipyn gwell wedi’r egwyl, yn enwedig felly i’r tîm cartref wrth i Gaerdydd ddechrau rheoli’r meddiant unwaith eto.
Gôl
Y cefnwr de, Kévin Théophile-Catherine, oedd un o chwaraewyr gorau’r Adar Gleision a gwaith da ganddo ef ar y dde a enillodd cic gornel i’w dîm toc wedi’r awr.
Cymerodd Craig Bellamy y gic honno gan ddod o hyd i Caulker yn y canol, a pheniodd yr amddiffynnwr canol a dreuliodd flwyddyn ar fenthyg yn Abertawe’r bêl i gefn y rhwyd.
Creodd yr eilydd, Fraizer Campbell, dipyn o argraff wedi dod i’r cae a chafodd gyfle dwbl i ddyblu mantais Caerdydd wyth munud o’r diwedd ond llwyddodd amddiffyn Abertawe i’w atal.
Fe gafodd Abertawe eu cyfleoedd hefyd wrth i’r gêm dynnu at ei therfyn ond llwyddodd Marshall i arbed cynnigion Jonathan De Guzman a Álex Pozuelo yn gyfforddus.
Cerdyn Coch
Diflannodd gobeithion Abertawe ar ddechrau’r amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm pan dderbyniodd Vorm gerdyn coch am lorio Campbell ag yntau yn rhedeg tua’r gôl.
Gyda thri eilydd eisoes ar y cae i’r ymwelwyr, bu rhaid i Rangel fynd i’r gôl am y munudau olaf, ac yn wir, fe lwyddodd i arbed cic rydd Peter Wittingham i gadw ei dîm yn y gêm.
Ond methodd Abertawe a chael y bêl i ben arall y cae a daliodd Caerdydd eu gafael ar fuddugoliaeth haeddianol.
Mae’r canlyniad yn codi Caerdydd dros Abertawe i’r deuddegfed safle. Mae’r Elyrch bellach yn y trydydd safle ar ddeg.
.
Caerdydd
Tîm: Marshall, Théophile-Catherine, Taylor, Medel (Kim 88′), Caulker, Turner, Cowie, Mutch (Gunnarsson 54′), Odemwingie (Campbell 75′), Whittingham, Bellamy
Gôl: Caulker
Cerdyn Melyn: Wittingham 87’
.
Abertawe
Tîm: Vorm, Rangel, Taylor, Shelvey, Chico, Williams, Dyer, Britton (Pozuelo 71′), Michu (Bony 65′), De Guzmán, Routledge (Alvaro 81′)
Cerdyn Coch: Vorm 90’
.
Torf: 27,463