Munster 12–6 Gweilch
Gêm ddigon di fflach a gafwyd ar Barc Thomond nos Sadwrn wrth i’r Gweilch ymweld â Limerick i herio Munster yn y RaboDirect Pro12.
Gêm i’r cicwyr yn unig oedd hi a’r tîm cartref a gafodd y gorau o’r frwydr honno.
Sefydlodd Munster fantais gynnar diolch i ddwy gic y maswr cartref, Ian Keatley cyn i Matthew Morgan daro nôl i’r Gweilch i hanneru’r fantais ac felly yr arhosodd hi tan yr egwyl.
Ychwanegodd Keatley un arall yn yr ail hanner cyn cael ei eilyddio gyda JJ Hanrahan. Yr eilydd sgoriodd y pwyntiau nesaf wrth i’r tîm cartref gymryd y pwynt bonws o afael y Gweilch.
Ond fe gipiodd Morgan hwnnw’n ôl i’r ymwelwyr gyda chic olaf y gêm i olygu nad oeddynt yn dychwelyd i Gymru’n waglaw, 12-6 y sgôr terfynol.
Mae’r Gweilch yn llithro i’r trydydd safle yn nhabl y Pro12 yn dilyn y canlyniad gan i Glasgow guro’r Gleision nos Wener.
.
Munster
Ciciau Cosb: Ian Keatley 5’, 22’, 56’, JJ Hanrahan
.
Gweilch
Ciciau Cosb: Matthew Morgan 26’, 80’