Scarlets 17–9 Ulster
Cafwyd perfformiad da iawn gan y Scarlets yn erbyn Ulster nos Sadwrn ac roedd y rhanbarth o Gymru yn llawn haeddu curo’r Gwyddelod yn y gêm RaboDirect Pro12.
Roedd hi’n noson wyntog iawn ar Barc y Scarlets ac fe dalodd tactegau’r tîm cartref o gadw’r bêl ymysg y blaenwyr ar ei ganfed wrth iddynt ennill yn gymharol gyfforddus yn y diwedd.
Hanner Cyntaf
Dechreuodd Ulster y gêm yn gryf ac roeddynt yn llawn haeddu mynd ar y blaen gyda chic gosb Ruan Pienaar wedi naw munud.
Ond dim ond un tîm oedd ynddi o hynny tan yr egwyl a’r Scarlets oedd hwnnw. Gyda’r gwynt cryf yn gefn iddynt fe chwaraeodd y Cymry weddill yr hanner i gyd fwy neu lai yn hanner Ulster.
Aethant trwy 33 cymal mewn un ymosodiad ond daliodd amddiffyn y Gwyddelod yn gryf a bu rhaid bodloni ar dri phwynt o droed Steve Shingler yn unig yn wobr am yr holl bwyso.
Ond fe ddaeth cais haeddianol yn y diwedd wrth i’r Scarlets hyrddio sgarmes symudol dros y gwyngalch i alluogi’r clo, George Earle i dirio.
Methodd Shingler y trosiad ond wedi iddo ef adael y cae gydag anaf, fe orffennodd yr eilydd faswr, Aled Thomas, yr hanner gyda chic gosb i ymestyn mantais y Scarlets i wyth pwynt.
Ail Hanner
Caeodd Pienaar y bwlch yn gynnar yn yr ail gyfnod gyda chic gosb, ond yn debyg iawn i’r hanner cyntaf, cryfhaodd y Scarlets wrth i’r hanner fynd yn ei flaen a chawsant eu helpu gan ddiffyg disgyblaeth eu gwrthwynebwyr.
Derbyniodd asgellwr Ulster, David Mcllwaine, gerdyn melyn am drosedd yn ardal y dacl toc wedi’r awr ac fe adferodd Thomas yr wyth pwynt o fantais gyda’r gic gosb ganlynol.
Tarodd Pienaar yn ôl gyda’i drydedd cic lwyddiannus yntau wedi hynny ond doedd y gŵr o Dde Affrica ddim yn cael ei gêm orau erioed a methodd yn fuan wedyn gyda chyfle rhwydd yn syth o flaen y pyst.
Derbyniodd yr ymwelwyr ail gerdyn melyn saith munud o ddiwedd y gêm pan faglodd Roger Wilson wythwr y Scarlets a seren y gêm, Sione Timani.
Yna, gorffennodd y noson, yn addas rhywsut gyda phac y Scarlets yn dinistrio’i gwrthwynebwyr yn y sgrym i ennill cic gosb arall, cic gosb a gafodd ei throi’n dri phwynt gan Thomas i sicrhau sgôr terfynol o 17-9.
Ymateb
Capten y Scarlets ar y noson, Phil John:
“Fe edrychon ni ar y tywydd cyn y gêm ac fe newidiodd hynny’r ffordd yr oeddem ni moyn chwarae. Ond fe newidiom ni’n glou ac fe weithiodd e’ i ni.”
“Roedd y gwynt yn tueddu i groesi’r ca’ ac roedd hi’n haws cario’r bêl i mewn iddo fe na chicio’r bêl bant. Ac fe roddodd gwaith caled gan yr wyth blaen feddiant da i’r cefnwyr.”
Mae’r canlyniad yn codi’r Scarlets ddau le i’r chweched safle yn nhabl y Pro12.
.
Scarlets
Cais: George Earle 31’
Ciciau Cosb: Steve Shingler 23’, Aled Thomas 40’, 64’, 77’
.
Ulster
Ciciau Cosb: Ruan Pienaar 9’, 45’, 69’
Cardiau Melyn: David Mcllwaine 63’, Roger Wilson 74’