Y sylwebydd gwleidyddol Gareth Hughes sy’n bwrw golwg nol dros 2012…

Y ceffyl ôl yn llamu ymlaen (Leanne Wood)

Ar ôl ymgyrch o dri mis fe ddewisodd aelodau Plaid Cymru arweinydd newydd i’r chwith. Ar ôl lot o hwyl a sbri dydan ni ddim wedi clywed llawer ganddi ers iddi ddechrau am ei bod hi’n dweud mai’r peth pwysig ydy pethau tu allan i’r Cynulliad ac nid yn y Cynulliad. Efallai bod hynny’n adlewyrchu’r ffaith nad ydy hi ddim wedi bod yn rhy effeithiol yn y Cynulliad, a’i bod hi’n well yn cyfarfod pobol gyffredin. Ond, yn y pen draw, yn y Cynulliad y mae’r pwerau ac nid yn y lonydd a’r caeau tu allan.

Noson wael i’r Rhyddfrydwyr

Llwyddiant anhygoel i Lafur yn yr etholiadau lleol a siomedigaeth fawr nid yn unig i Blaid Cymru ond yn sicr y Democratiaid Rhyddfrydol. Mae’n adlewyrchu sefyllfa’r Rhyddfrydwyr yn y polau piniwn i gyd sef eu bod nhw wedi colli tir aruthrol. Beth fydd yn ddiddorol yn y flwyddyn newydd ydy a fyddan nhw’n ennill tir yn ôl? Yn isetholiadau diwethaf Lloegr, roedd UKIP i’w gweld yn gwneud yn well o lawer na nhw.

Mwy o drethi plîs

Roedd adroddiad Silk yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru gael yr hawl i godi dipyn o arian ei hun. Roedden nhw’n argymell cael yr hawl i reoli mân drethi a hefyd i newid treth incwm. Ond dim ond ar ôl refferendwm. Dw i ddim yn gweld hynny’n digwydd achos dw i ddim yn gweld Llywodraeth Lafur fa’ma yn awyddus i gael refferendwm ar yr hawl i drethu yn y dyfodol agos. Os daw yna her o gwbl, gyda’r Llywodraeth bresennol yn San Steffan y daw o am fod y Torïaid yn San Steffan yn benderfynol o ddweud os ydy’r Llywodraeth yn fa’ma yn gwario arian fe ddylen nhw gymryd rhyw gyfrifoldeb am ei godi hefyd.

AWEMA

Methiant llwyr oedd y corff lleiafrifoedd ethnig AWEMA. Roedd Swyddfa Archwilio Cymru yn dweud yn un o’r adroddiadau nad oedd yna ddim rheolaeth gan y Llywodraeth o’r cyllid a lle’r oedd yr arian yn mynd ac y dylen nhw wneud rhywbeth ynghylch hynny. Dyna dw i’n meddwl oedd yr ergyd fwyaf i ddod allan o AWEMA, dim rheolaeth. Mae hynny yn rhywbeth go gryf i Lywodraeth sydd yn mynnu cael mwy o bwerau dros drethi.

Ta ta Cheryl, helo David

“Fe gafodd Cheryl Gillan ei gwthio allan o swydd Ysgrifennydd Cymru gan David Cameron a phwy ddaeth i mewn ond David Jones. Roedd o’n aelod o’r Cynulliad ar un pryd a heb fod yn ddatganolwr brwd. Ond mae’n gweithio’n agos efo Carwyn Jones ac maen nhw’n dweud wrtha’ i eu bod nhw’n medru gweithio’n dda efo’i gilydd. Doedd hynny ddim yn wir efo Carwyn a Cheryl Gillan.  Ac, wrth gwrs, fo ydy’r Cymro cynta’ ers Nicholas Edwards i fod yn Ysgrifennydd Gwladol Torïaidd sydd hefyd yn dod o etholaeth yng Nghymru.

Gaffs y Prif Weinidog

Mae Carwyn Jones wedi trio gwneud tri pheth yn y lle yma:

  • Trio dod â Trident i Aberdaugleddau. Felly mae hynny yn dangos bod o eisiau ehangu pwerau’r Cynulliad!
  • Tri codi’r niferoedd oedd yn edrych ar S4C a’i ffordd o wneud hynny oedd trio gwahardd Pobol y Cwm a dweud na ddylen nhw ail ddangos un bennod o’r rhaglen. O ganlyniad, roedd pawb yn sbïo ar Pobol y Cwm am y tro cyntaf ers blynyddoedd a fi yn un ohonyn nhw!
  • Mi gafodd wybod ym mis Mai ynglŷn â’r newid yn y drefn o helpu pobol i dalu treth cyngor. Er hynny mi benderfynodd beidio â gwneud llawer am y peth tan y funud olaf. Mae hynny’n dangos ei fod o’n meddwl ei fod  yn medru trin y Cynulliad fel y myn o. Ond fedrith o ddim gwneud bob dim, achos does ganddo ddim mwyafrif.

Saga’r Uchel Lys

Mi roddodd Llywodraeth Cymnru dipyn o glec i San Steffan ar ôl i’r rheiny fynd â deddf gyntaf y lle yma i’r Uchel Lys. Ddaru’r rheiny ddyfarnu o blaid y lle yma. Mae hynny’n dangos bod y Cynulliad yn medru edrych yn fanwl ar beth maen nhw’n cael ei wneud, sut maen nhw’n mynd i’w wneud o ac yn dechrau dallt eu pwerau. Mae hynny’n gam pwysig. Efallai nad ydy o ddim yn bwysig i’r cyhoedd ond mae’n gam pwysig i ddatganoli yng Nghymru.

2013?

Fel ddaru Harold Wilson ddweud flynyddoedd yn ôl mae wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth, wel mae blwyddyn yn hir ofnadwy. Mi welwn ni bethau annisgwyl yn digwydd eto.

Mae’n bosib yn y flwyddyn newydd, y bydd Carwyn yn edrych ar ei gabinet ac yn dweud, wel dydy rhai o’r rhain ddim yn cyrraedd y safon dw i eisiau, a chael gwared ohonyn nhw a dod â gwaed newydd i mewn.