Dylan Iorwerth yn edrych ar ystyr dyfnach sylwadau’r gweinidog cabinet
Dw i wedi bod yn oedi cyn rhoi sylw i sylwadau Jacob Rees-Mogg am dân Tŵr Grenfell. Ro’n i’n disgwyl i rywun arall ddweud y peth mwya’ amlwg am ei sylwadau ond, hyd yn hyn, welais i ddim.
Mae’r feirniadaeth wedi bod arno fo am awgrymu ei fod o a’i debyg yn ddoethach na’r bobol gyffredin anffodus oedd yn byw yn y tŵr fflatiau.
Yr awgrym oedd bod ganddo fo a’r cyflwynydd radio ‘synnwyr cyffredin’ – yn wahanol i’r gwehilion o’r dosbarth is ac o gymysgedd o gefndiroedd ethnig oedd yn drigolion yno.
Mae’r feirniadaeth yn ddigon teg ond dydi hi ddim yn mynd at galon y sylwadau … at yr hyn sy’n wirioneddol ddychrynllyd ynddyn nhw.
Yn fwy nag awgrymu ei fod o yn well na phawb arall, roedd Jacob Rees-Mogg yn dangos diffyg dealltwriaeth lwyr o amgylchiadau pobol eraill.
Petai’r gŵr mawr Etonaidd yn byw mewn fflat ar 23ain llawr bloc uchel a bod tân yn dechrau ar y pedwerydd llawr, ai synnwyr cyffredin fyddai mynd i lawr at y tân?
Petai o’n agor drws ei fflat a gweld pydew’r grisiau’n llawn mwg gwenwynig, ai synnwyr cyffredin o angenrheidrwydd fyddai rhuthro i’w ganol?
Beth petai o’n gorfod gwneud y penderfyniad a dau neu dri o blant ofnus wrth ei ochr? Does gan y dyn ddim syniad ac, yn waeth fyth, dydi o ddim yn deall nad oes ganddo fo ddim syniad.
Yr hyn sy’n ddifrifol ofnadwy am yr hyn ddywedodd o ydi’r anwybodaeth lwyr am amgylchiadau pobol eraill, a’r diffyg dychymyg i geisio amgyffred hynny.
Dyma’r math o ddyn sydd mewn llywodraeth ac, o ganlyniad, yn gwneud penderfyniadau ar faterion fel diogelwch a gosod safonau adeiladu ar gwmnïau mawr, cyfoethog.
A dyma’r rhai hefyd sy’n dweud eu bod ar ochr ‘y bobol’ yn erbyn yr ‘elît’.
Roedd yn waeth na dangos dirmyg at ddiffyg synnwyr cyffredin pobol; roedd yn dangos dirmyg at eu bywydau nhw hefyd.