Mae dau Geidwadwr blaenllaw wedi cyhoeddi na fyddan nhw’n sefyll eto yn yr etholiad cyffredinol ym mis Rhagfyr.

Fe ymddiswyddodd Amber Rudd o Gabinet y Llywodraeth ac ildiodd hi’r chwip tros Brexit y mis diwethaf. Roedd ganddi fwyafrif o ddim ond 346 yn yr etholiad cyffredinol diwethaf.

Er ei bod hi’n camu o’r neilltu am y tro, mae’n dweud nad yw ei gyrfa wleidyddol ar ben a’i bod yn gadael “ar delerau da â Boris Johnson”.

Aelod seneddol blaenllaw arall sy’n gadael y Senedd yw Patrick McLoughlin. Fe fu’n Ganghellor Dugiaeth Lancaster, yn Ysgrifennydd Trafnidiaeth ac yn gadeirydd y Blaid Geidwadol ar wahanol adegau.

Mae’n cynrychioli etholaeth Derbyshire Dales, ac mae wedi bod yn aelod seneddol ers 33 o flynyddoedd.