Mae ymchwiliad i ddamwain hofrennydd yn Glasgow yn dweud y gellid fod wedi arbed y digwyddiad pe bai’r peilot wedi dilyn camau argyfwng yn ymwneud â lefelau tanwydd isel.

Bu farw deg o bobol – tri aelod o griw’r hofrennydd a saith o bobol eraill – pan darodd yr hofrennydd do adeilad tafarn Clutha ar Dachwedd 29, 2013.

Fe wnaeth injanau’r hofrennydd fethu tra bod y cerbyd yn yr awyr, a hynny o ganlyniad i ddiffyg tanwydd, meddai adroddiad.
Mae’r adroddiad yn nodi bod y peilot, y Capten Traill, wedi methu â sicrhau bod o leiaf un o switsys pympiau petrol yr hofrennydd ymlaen.

Dyw hi ddim yn glir pam fod y lefelau mor isel pan fo digon o danwydd ar gael, meddai’r ymchwiliad.

Ac mae hefyd yn dweud y gellid fod wedi osgoi’r ddamwain pe bai’r peilot wedi troi un o’r switsys ymlaen pan sylweddolodd fod diffyg tanwydd.