Mae heddlu arfog Rwsia wedi dechrau cynnal patrôls ar rannau o ffin Syria.
Fel rhan o’r cytundeb gyda Thwrci, mae’r gwaith o warchod hyd y ffin wedi ei rannu rhwng lluoedd arfog Twrci a heddlu arfog Rwsia ynghyd â byddin Syria.
Rhybuddiodd y Kremlin luoedd Cwrdaidd i dynnu allan o’r ardal rhag cael eu lladd gan luoedd arfog Twrci.
Mae arlywydd Twrci, Recep Tayyip, wedi ategu’r rhybuddion drwy ddweud y bydd ei luoedd yn ail-ddechrau eu hymosodiadau yn erbyn lluoedd Cwrdaidd os yw’r cytundeb newydd ddim yn cael ei barchu a’i gario allan.