Mae wedi dod i’r amlwg fod y 39 o bobol a gafodd eu darganfod yn farw yng nghefn lori yn hanu o Tsieina.

Fe gafodd 39 o gyrff eu darganfod mewn rhewgell yng nghefn lori yn Grays, de-ddwyrain Lloegr ddoe (dydd Mercher, Hydref 23).

Mae Heddlu Essec yn holi dyn 25 oed o Ogledd Iwerddon ar amheuaeth o lofruddiaeth.