Bydd mwy o arian yn cael ei wario ar wasanaethau cymorth i ddioddefwyr trais ac ymosodiadau rhyw, yn ol gweinidogion San Steffan.
Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd yn darparu £5m yn ychwanegol i ariannu rhaglenni fel bod dioddefwyr yn cael yr help sydd ei angen arnyn nhw, gan wneud eu profiad o’r system gyfiawnder troseddol yn symlach.
O’r flwyddyn nesaf ymlaen, bydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder (MoJ) yn rhoi £12m y flwyddyn i 96 o ganolfannau cymorth ledled gwledydd Prydain.
Mae hyn yn gynnydd o oddeutu £7.2m a ddarparwyd dros y flwyddyn ddiwethaf sy’n talu am wasanaethau i oedolion a phlant sy’n dioddef trais rhywiol gan gynnwys cwnsela a sesiynau cyngor wyneb yn wyneb, meddai’r adran.
Mae’n bwriadu gwario £1m yn recriwtio mwy o gynghorwyr trais, sy’n gweithredu fel cyswllt rhwng y dioddefwyr a’r heddlu neu gyrff cyfiawnder troseddol eraill a gwasanaethau cymorth.
Y ffeithiau
Amcangyfrifir bod 20% o fenywod a 4% o ddynion wedi profi rhyw fath o ymosodiad rhyw, sy’n cyfateb i rhwng tair a phedair miliwn o ddioddefwyr benywaidd a 631,000 o ddynion. Daw’r ffigyrau hynny o’r Arolwg Trosedd ar gyfer Cymru a Lloegr.
Bydd swyddfa annibynnol Comisiynydd Cam-drin Domestig yn cael ei sefydlu yn gorff statudol ac yn cyhoeddi adroddiadau ar ei ganfyddiadau.
Mae nifer y llofruddiaethau trais domestig wedi cyrraedd uchafbwynt pum mlynedd, dangosodd ffigurau a gafwyd gan y BBC y mis hwn.